Rhowch ddiwedd ar biomas - mae'n ychwanegu tanwydd at y tân

Mae'r byd ar dân, ond eto mae'r arfer o losgi coed crai ar gyfer ynni yn parhau i ledaenu ledled Cymru, ac mae'n cael ei alw'n ynni adnewyddadwy. I Gareth Ludkin, Ymgyrchydd dros yr Hinsawdd a chyd-gysylltydd Cyfeillion y Ddaear Caerdydd, mae'n bryd buddsoddi mewn atebion dilys.

Gan Gareth Ludkin
Cyd-gysylltydd Cyfeillion y Ddaear Caerdydd

 

 

 

Pan glywn y term 'ynni adnewyddadwy', mae'n debygol iawn mai delweddau disglair a gobeithiol o baneli solar, tyrbinau gwynt a phŵer dŵr sy'n dod i'r meddwl.

Wedi i adroddiad diweddaraf y Cenhedloedd Unedig ar yr Hinsawdd ein gadael mewn sioc, mae'n ymddangos bod angen mwy taer nag erioed inni droi'r gweledigaethau hawdd eu dychmygu o ddyfodol gwyrdd a chynaliadwy yn realiti.

Ond mae angen cyflwyno datrysiadau ynni gwirioneddol adnewyddadwy 'sero net' yn gyflym, nid datrysiadau ffug sy'n cynhyrchu hyd yn oed mwy o allyriadau niweidiol i'r hinsawdd. 

 

Nid biomas yw'r ateb

Nid yw Llywodraeth y DU yn buddsoddi adnoddau digonol i oresgyn yr heriau rydym yn eu hwynebu, ac mae'r diwydiant biomas yn cael yr hawl i wneud fel a fynnant.

 

Nid yw pob math o ynni adnewyddadwy yn llesol i'r blaned. Mae bio-ynni - biomas coed yn benodol - yn fath o ynni "adnewyddadwy" dadleuol iawn. Mae'n parhau i ddibynnu ar gymorthdaliadau enfawr gan y llywodraeth i oroesi, tra bo cwmnïau boncyffion diwydiannol yn UDA ac Ewrop yn llenwi eu pocedi.

Mae llosgi coed yn gallu rhyddhau mwy o CO2 i'r atmosffer na'r hyn y mae glo yn ei wneud, ond nid yw polisïau presennol yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn rhoi ystyriaeth i'r 'ddyled garbon' hon.

Fis diwethaf, rhybuddiodd ymgyrchwyr unwaith eto ynghylch mân-newidiadau i bolisi biomas yr UE. Mae cyfrifyddu carbon gwrthbrofedig wedi ei bobi i mewn i'r system erbyn hyn. Mae'r newid yn y polisi wedi arwain at dwf cyflym yn y galw am biomas ers 2011, gan ychwanegu at y coedwigoedd sy'n cael eu colli ar hyd a lled Ewrop ac UDA.

Fel y mae'r ymgyrch 'Cut Carbon Not Forests' yn ei bwysleisio, mae llywodraeth y DU bellach ar frig y rhestr o wledydd yn Ewrop sy'n rhoi cymorthdaliadau i'r diwydiant hwn, gyda'r cyfanswm yn dod i £1.9 biliwn.

Ym mis Tachwedd 2021, daeth Cyfeillion y Ddaear Caerdydd yn un o'r nifer fawr o grwpiau amgylcheddol i geisio mynd i'r afael â'r realiti hwn drwy herio caniatâd cynllunio o'r newydd am safle biomas (a gymeradwywyd yn wreiddiol yn 2018) yn nwyrain Caerdydd.

 

Safle biomas y Sblot wedi ei gymeradwyo

Er gwaethaf y pryderon ynghylch iechyd a llesiant lleol mewn ardal yng Nghaerdydd sydd eisoes yn ddiwydiannol iawn, a safle arfaethedig yn gyfagos i gymunedau sydd eisoes yn ddifreintiedig, rhoddwyd caniatâd cynllunio newydd i'r safle ym mis Rhagfyr 2020 mewn amrantiad.

Ar ôl tynnu sylw at y peryglon i iechyd lleol, yn ogystal â'r frwydr fyd-eang yn erbyn chwalfa'r hinsawdd, cyflwynodd ein grŵp ddeiseb i wrthwynebu hyn a gefnogwyd gan Aelodau Seneddol, Aelodau o'r Senedd, cynghorwyr a mwy na 700 o drigolion lleol.

Drwy'r broses hon, fe gawsom yr hawl i leisio ein barn yn erbyn y cynnig i'r pwyllgor cynllunio, ond mewn system gynllunio sydd, yn ôl pob golwg, yn rhoi datblygu o flaen diogelu'r amgylchedd, roedd herio'r caniatâd cynllunio yn anhygoel o anodd.

Roeddem wedi gobeithio y byddai'n wrandawiad teg a gwrthrychol, ond anogwyd y pwyllgor cynllunio i gymeradwyo'r cynnig drwy waith y swyddog cynllunio a oedd yn cyflwyno'r achos i'r pwyllgor.

 Ar y sgrin, fe welsom y swyddog cynllunio yn amlwg yn dathlu'r penderfyniad i roi'r golau gwyrdd i'r safle biomas hwn, ac mae hynny wedi siglo ein ffydd mewn proses gynllunio sydd i fod i roi ystyriaeth briodol i'r newid yn yr hinsawdd.

Oherwydd y ffactorau rhwystrol sy'n gysylltiedig â gwrthwynebu caniatâd cynllunio ar sail gyfyng (yn enwedig pan fo cynllunio wedi ei gymeradwyo unwaith o'r blaen), nid oeddem yn teimlo'n ffyddiog iawn fod yr ystyriaethau ehangach yn ymwneud â'r hinsawdd a'r amgylchedd wedi cael ystyriaeth ddyladwy yn y penderfyniad.

Nid oedd y pwyllgor cynllunio i weld yn pryderu ynghylch y ffaith y byddai'r safle'n mewnforio a llosgi coed crai o Latfia, lle nad yw torri boncyffion yn cael ei reoleiddio'n dda o gwbl a lle mae defnydd crai yn annhebygol o fodloni'r gofynion cynaliadwyedd a osodwyd gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Yng Nghymru, erbyn hyn mae o leiaf 6 safle naill ai yn gweithredu, neu wedi cael caniatâd cynllunio, neu wedi cael eu hadeiladu ac yn aros i ddechrau gweithredu. Un safle o'r fath sydd wedi cael ei adeiladu yw nwyeidydd coed gwastraff Biomass UK No.2 Ltd yn y Barri. Blynyddoedd o wrthwynebu gan y grŵp penderfynol, Local Docks Incinerator Action Group yw un o'r pethau prin sy'n atal y safle hwn rhag cael ei gomisiynu.

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i oedi ar y penderfyniad er nad oes asesiad amgylcheddol clir yn profi y gall y safle weithredu'n ddiogel gan amddiffyn iechyd a llesiant y gymuned leol.

Fel rydym wedi ei weld gyda'r moratoriwm diweddar ar losgi gwastraff, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle gwerthfawr i wneud safiad egwyddorol yn erbyn defnyddio biomas coed fel ffynhonnell ynni. Er bod y safleoedd yng Nghaergybi a Phort Talbot yn parhau i weithredu, mae gennym amser i roi diwedd ar y posibilrwydd y bydd Caerdydd a'r Barri yn gwneud yr un fath.

Ac ar adeg pan fo'r byd ar dân, yn llythrennol, gyda thanau coedwig yn fflamio yng Ngwlad Groeg, Califfornia a Chanada, a datgoedwigo yn parhau yn ne-ddwyrain yr Unol Daleithiau er mwyn bwydo'r or-ddibyniaeth ar fiodanwydd ledled Ewrop, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru'n edrych ar y sefyllfa ac yn gwrthod ychwanegu tanwydd at y tân yn ein byd sy'n prysur gynhesu

Rhanwch yr tudalen hwn

Eisiau sicrhau newidCymrwch Rhan neu Rhoddwch i ni