Rhannu ceir
Published: 20 Apr 2022
Mae’n ymddangos ein bod ni Brydeinwyr yn anfodlon rhannu ceir wrth deithio i’r gwaith.
Mae’n debyg, yn 2017, o’r 15.3 miliwn o bobl yn Lloegr a Chymru sy’n gyrru eu hunain i’r gwaith bob dydd mewn ceir a faniau, dim ond 1.4 miliwn ohonynt sy’n fodlon teithio i’r gwaith yn sedd y teithiwr yn hytrach nac yn sedd y gyrrwr.
Mae hyn yn golygu cyfradd llenwi ceir o oddeutu 1.1 person y cerbyd.
Os ydych chi’n meddwl y gallai rhannu car fod yn rhywbeth i chi ei ystyried, mae sawl gwefan y gallwch chi ymweld â nhw. Mae ambell i syniad a dolenni ar wefan Traveline Cymru.