Newid i dariff ynni gwyrdd

Published: 4 Feb 2022

Mae gan ynni adnewyddadwy y potensial i gyflenwi pedair rhan o bump o drydan y byd erbyn 2050.

 Tyrbinau gwynt

 

Yn 2020, deilliodd oddeutu 43% o drydan y DU o ffynonellau adnewyddadwy. Trwy newid i dariff ynni gwyrdd, byddwch yn dangos i’r cwmnïau ynni mawr fod eu cwsmeriaid yn dymuno cael mwy o ynni adnewyddadwy.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni lond trol o wybodaeth dda.

Hefyd, mae’r Big Clean Switch yn lle da i droi ato i gael gwybodaeth a chyngor ynglŷn â dewis tariff gwyrdd, ac rydym wrth ein bodd â’r ffordd hon o esbonio pam mae newid tariff yn syniad da…

Meddyliwch am y Grid Cenedlaethol fel pe bai’n bwced yn llawn o ddŵr. Pan fyddwch ar dariff adnewyddadwy, bydd eich cyflenwr yn addo rhoi dŵr glân yn ôl yn y bwced i wneud yn iawn am y dŵr a dynnwch chi ohoni. Po fwyaf o ddŵr glân a aiff i mewn i’r bwced (a pho leiaf o ddŵr budr), po lanaf fydd y bwced, ac felly po lanaf fydd y Grid.”

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Ynni

Amdani!

Share this page