Mae’n fel i gyd: ymgyrchydd amgylcheddol o Gymru’n ennill gwobr o fri

Published: 18 May 2018

Mae Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu Cyfeillion y Ddaear Cymru, Bleddyn Lake, wedi ennill gwobr flynyddol Sefydliad Sheila McKechnie (SMK) am ‘Arweinyddiaeth Eithriadol’. Mae’r wobr yn cydnabod unigolyn sydd wedi darparu arweinyddiaeth eithriadol i’w sefydliad neu gymuned er mwyn ysgogi newid.

 

Albanes oedd y Fonesig Sheila McKechnie. Roedd yn undebwr llafur, yn ymgyrchydd dros faterion tai ac yn weithredwraig dros hawliau defnyddwyr. Yn dilyn ei marwolaeth yn 2004, crëwyd Sefydliad Sheila McKechnie i gefnogi cenhedlaeth newydd o ymgyrchwyr.

Bob blwyddyn, bydd SMK yn dathlu’r ymgyrchoedd a’r ymgyrchwyr gorau – ar lefel leol neu genedlaethol, ac o unigolion a grwpiau cymunedol i bobl sy’n gweithio mewn sefydliadau mawr.

Mewn seremoni yn Llundain ddoe, derbyniodd Bleddyn Lake wobr am ei ‘Arweinyddiaeth Eithriadol’ wrth greu’r Cynllun Caru Gwenyn yng Nghymru.

Dechreuodd Bleddyn weithio ar ymgyrch amddiffyn gwenyn Cyfeillion y Ddaear ychydig flynyddoedd yn ôl, a chyn pen dim fe lwyddodd i berswadio Llywodraeth Cymru i lunio Cynllun Gweithredu newydd ar gyfer Pryfed Peillio. Fel rhan o hyn, mae’n aelod o Dasglu Pryfed Peillio a sefydlwyd i edrych ar bob agwedd ar iechyd a lles pryfed peillio yng Nghymru. Fe greodd Bleddyn y cynllun ‘Caru Gwenyn’ fel ffordd hwyliog o ennyn diddordeb ysgolion, cymunedau, prifysgolion, cynghorau a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru mewn helpu i amddiffyn gwenyn a phryfed peillio eraill yng Nghymru. I ennill statws Caru Gwenyn, y cyfan y mae’n rhaid i grŵp ei wneud yw cwblhau set o gamau i helpu pryfed peillio, o dan bedwar gwahanol bennawd: bwyd, cynefin, cynnwys y gymuned a phlaleiddiaid.

Ar ôl cael yr achrediad, gall sefydliad alw ei hun yn swyddogol yn sefydliad ‘Caru Gwenyn’, ac mae rhwydwaith o ‘Hyrwyddwyr Gwenyn’ gwirfoddol, rhanbarthol wedi’i sefydlu yng Nghymru i helpu grwpiau i ddechrau arni.

Dyma’r cynllun achredu cenedlaethol cyntaf o’i fath yn ymwneud â phryfed peillio, ac mae eisoes yn denu digonedd o ddiddordeb, gyda nifer fawr o drefi, ysgolion a phrifysgolion yn gweithio tuag at statws Caru Gwenyn. Mae rhai cynlluniau wedi hedfan drwy’r camau ac eisoes wedi cael achrediad: Ysgol Gynradd y Gelli oedd yr ysgol Caru Gwenyn gyntaf yng Nghymru ac Abertawe oedd y Brifysgol Caru Gwenyn gyntaf. Cyngor Conwy sy’n arwain y ffordd i’r awdurdodau lleol ac rydym eto i weld pwy fydd yn ennill y ras i ddod y dref a’r ddinas Caru Gwenyn gyntaf.

Dyma ddywedodd Bleddyn Lake wrth dderbyn y wobr:

“Pleser yw cael derbyn y wobr hon ar ran yr holl wirfoddolwyr yng Nghymru sy’n gweithio’n ddiflino i helpu i warchod gwenyn a phryfed peillio eraill. Mae gwenyn yn dod â chymaint o fudd inni: mae’n braf cael rhoi help llaw iddyn nhw a gwneud ein cymunedau’n lleoedd gwell yr un pryd.

“Mae wedi bod yn wych gweld yr holl frwdfrydedd ynglŷn â’r cynllun hwn gan grwpiau ym mhob cwr o Gymru.

“Drwy gydweithio, gallwn sicrhau mai Cymru fydd y genedl Caru Gwenyn gyntaf yn y byd.”

Share this page