Mae Cymru angen cyfreithiau newydd ar frys i amddiffyn natur

Published: 26 Apr 2023

Photo of David Kilner

David Kilner
Nature Positive Campaign Coordinator
C
limate Cymru

Mae byd natur mewn perygl dirfawr. I atal a gwrthdroi'r dirywiad trychinebus hwn, mae Cymru angen bil sy'n bositif am natur, meddai David Kilner, cydlynydd ymgyrch Natur Bositif yng Nghymru. Mae David yn meddwl ein bod ni'n agos ond mai nawr yw'r amser i fynd amdani at y llinell derfyn.
Hope written in sand
Llun drwy garedigrwydd Climate Cymru

Ar ôl gorymdeithio gyda bron i 90,000 o bobl (yn cynnwys dros 500 o Gymru!) drwy Lundain dros fyd natur yn ystod digwyddiad 'Yr Un Mawr' gan XR, dwi'n teimlo'n obeithiol.

Ac wrth i ni wylio'r Gwanwyn yn deffro, rwy'n teimlo y gallem fod ar fin gweld rhywbeth newydd - Bil newydd i adfer a diogelu natur.

Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth mae llawer ohonom wedi bod yn ei ddweud ers amser maith ond y tro hwn, mae rhywbeth yn teimlo'n wahanol.

 

 

Graph showing the global goal to be nature positive by 2030

Ymgyrch natur bositif

Oherwydd bod y byd wedi dod at ei gilydd a dweud bod yn rhaid adfer natur - ar gyfer ein systemau bwyd, i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac er ei fwyn ei hun a'n lles ein hunain, mae 159 o sefydliadau, gan gynnwys Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd a'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar,  yn galw ar lywodraethau i atal a gwrthdroi’r ‘golled drychinebus yr ydym yn ei weld ym myd natur’ heddiw ac i wneud yr hyn sydd ei angen i fod yn 'natur bositif erbyn 2030'.

 

What about Wales?

 

Picture of a puffin
Drwy garedigrwydd Climate Cymru

Pyllau glo, carthion, torri coedwigoedd, stripio’r moroedd – rwyf wastad yn meddwl ac yn gofyn pam nad oes gennym gyfreithiau cadarn i atal niwed o'r fath yn y cyfnod hwn o argyfwng?

Cyn belled yn ôl â 2020, cytunodd Llywodraeth Cymru i sefydlu corff gwarchod annibynnol llawn er mwyn dwyn awdurdodau a sefydliadau i gyfrif.

Cyn uwchgynhadledd bioamrywiaeth COP ym mis Rhagfyr 2022, ymrwymodd Llywodraeth Cymru wedyn i warchod 30 o ardaloedd daearol, mewndirol ac arfordirol a morol erbyn 2030 (a alwyd y targed '30x30').

Dywedodd Julie James y byddai angen "gweithredu strategol, rheoleiddiol a deddfwriaethol" i wneud hynny.

Mae'n wych gweld y camau cadarnhaol hyn ond mae angen i ni yn awr eu gwthio dros y llinell derfyn – i weld Bil Natur Bositif yn cael ei ddeddfu eleni er mwyn i ni allu bwrw ymlaen â'r gwaith o fyw, caru a mwynhau natur. Ei gwylio'n ffynnu, gweithio ynddi ac ochr yn ochr â hi, gan ei gweld yn cael ei hadfer.

 

Yr hyn yr ydym yn galw amdano?

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Mesur eleni, yn rhaglen ddeddfwriaethu 2023-24 sy’n:

  • Ymgorffori ymrwymiad i gyfraith Natur Bositif ar gyfer Cymru, wedi’i thanategu gan dargedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol.
  • Sicrhau cyfiawnder amgylcheddol i bobl Cymru drwy sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol.

 

Amser i ddwyn pwysau

Ym mis Mai, bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud am ba ddeddfwriaeth newydd fydd yn cael ei chynnwys yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer 2023-4. Felly, mae'n amser gweithredu.

Rydym yn lwcus yng Nghymru bod natur mor brydferth o'n cwmpas, ac mae angen i ni ddangos i Lywodraeth Cymru ein bod am iddi gael ei gwarchod yn iawn. I ni ac i genedlaethau'r dyfodol.

Ym Mawrth 2023 roedd Climate Cymru yn y penawdau wrth i 300 o sefydliadau, o bob cwr o Gymru ac ar draws cymdeithas ddod ynghyd i ymateb i’r alwad hon.  Gadewch i ni wneud mwy – gadewch i ni sicrhau ein bod ni’n amhosibl i’n hanwybyddu.

 

Add your voice graphic
Add your voice

Ychwanegwch eich llais

Fel unigolion, mae'n llais ni'n cyfrif. Gallwch ymuno â bron i 900 o bobl eraill sydd wedi e-bostio ein Prif Weinidog gyda chlic cyflym yma - dim ond 'dechrau ysgrifennu'. Gall mesur Natur Bositif olygu ein bod yn gallu symud ymlaen i drwsio ac adfer ein tirwedd.

Gallwch ddarllen ein llythyr agored hefyd, gweld pwy sydd wedi llofnodi ac ychwanegu eich grŵp neu’ch sefydliad yma.

Rydym am i 500 o sefydliadau gofrestru erbyn yr 20fed o Fai pan fyddwn yn cyflwyno ein hunain i'r Senedd.  Boed yn grŵp casglu sbwriel lleol, yn gôr, yn weithle, yn ysgol, yn undeb neu’n sefydliad gwirfoddol - dyma fydd yn sicrhau bod natur yn ennill!

Os oes gennych chi amser i’w sbario – gofynnwch i ffrindiau ysgrifennu'r e-bost, estynnwch allan i'ch grwpiau lleol a gofyn iddyn nhw fod yn llofnodwyr. Dychmygwch petai un person ym mhob sir, tref a phentref person yn cyfuno’r dotiau – gan ofyn 'Allwch chi ychwanegu eich llais at yr alwad hon i amddiffyn Natur?' Chi yw'r person hwnnw. Mae mor syml â neges sydyn, e-bost neu sgwrs. Mae natur yma i ni i gyd.  Mae'n cynnal pob un ohonom. Mae angen i ni gyd gael y sgwrs hon.

Ar yr 22ain o Fai, byddwn yn cyflwyno eich negeseuon, eich llais (os ydych am ffilmio eich hun!) a'ch sefydliadau i'r Senedd a'n cynrychiolwyr. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni.

Rydym i gyd yn gweithio'n galed dros fyd natur, yn ein cartrefi a'n cymunedau – rydym mor agos at weld cyfreithiau newydd i ddiogelu Natur mewn deddfwriaeth eleni – helpwch ni i gyrraedd y nod.

Ni fydd natur yn aros a fyddwn ni ddim chwaith. Natur am byth!

Photo of bee orchid
Llun o degeirian gwenynog ( trwy garedigrwydd Climate Cymru)

Mae'n hen bryd cael Mesur Natur Bositif – peidiwn ag aros eiliad yn fwy!!

Wn i ddim amdanoch chi, ond rwyf am i'n plant a phlant ein plant allu eistedd mewn llannerch mewn coedwig mewn cwmwl o löynnod byw ac iddyn nhw allu mwynhau dolydd llawn tegeirianau.

Gadewch i ni wneud i hyn ddigwydd. Cysylltwch â David am fwy o wybodaeth, neu gadewch iddo wybod sut gallwch chi ledaenu'r gair: [email protected]

 

 

 

Share this page