Gwobr i Uplands RFC am gymryd camau beiddgar i leihau plastig
Published: 7 May 2019
Mae'r clwb rygbi wedi cyflawni achrediad clwb chwaraeon di-blastig gan Gyfeillion y Ddaear Cymru am gyfnewid gwellt a chyllyll a ffyrc plastig, gwydrau peint plastig untro, a chwpanau coffi a phecynnau bwyd untro am ddewisiadau eraill o bapur, pren, a deunyddiau compostadwy ac ailddefnyddiadwy.
Dywedodd Sion Sleep, ymgyrchwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:
"Llongyfarchiadau i Uplands RFC ar ddod y clwb rygbi cyntaf yng Nghymru i dderbyn y wobr hon. Pleser oedd gweithio gyda nhw a gobeithio y bydd y newidiadau maent wedi'u gwneud yn ysbrydoli timau chwaraeon eraill ledled y wlad i wneud yr un fath!"
Dywedodd Peter Evans, aelod o fwrdd Uplands RFC:
"Gwyddom pa mor bwysig yw materion amgylcheddol i ieuenctid heddiw, a gyda thimau yn mynd o rai dan 7 oed i fyny, roeddem eisiau gwneud ein rhan. Mae problem enfawr gyda llygredd plastig ar hyn o bryd a gobeithiwn y gallwn fod y cyntaf o nifer fawr o glybiau chwaraeon i gael eu hachredu. Mae'r trawsnewidiad i weithredu'n ddi-blastig wedi bod yn weddol rhwydd a byddem yn annog clybiau eraill i wneud yr un fath!"
Mae Blue Planet II gan y BBC, a ddarlledwyd am y tro cyntaf yn Hydref 2017, wedi bod yn agoriad llygad i bobl o ran y niwed gall plastig ei achosi i fywyd y môr.
Defnyddir 725,000 o boteli plastig y dydd yng Nghymru yn ogystal â llu o blastigau eraill nad ydynt yn bioddiraddadwy a all gymryd cannoedd o flynyddoedd i bydru. Mae peth o'r gwastraff hwn yn gwneud ei ffordd i'n dyfrffyrdd ac yn y pendraw, yn cyrraedd y môr. Mae'r plastig yn cael ei gludo o gwmpas y byd gan gerhyntau'r cefnfor ac yna'n casglu mewn mannau gwahanol, gan ffurfio ynysoedd plastig enfawr3.
Os ydych yn rhan o dîm chwaraeon a hoffech gael gwybod mwy ynglŷn â sut gall eich clwb dderbyn achrediad am leihau plastig untro, cysylltwch â [email protected].