Etholiad Senedd 2026 - ein gofynion ni

Dylai pawb fod â hawl i anadlu aer glân a byw mewn amgylchedd glân a diogel mewn cartrefi cynnes a sych, yn ogystal â chael ein hamddiffyn rhag tywydd eithafol a chael mynediad at natur a bywyd gwyllt lleol.

 


Rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i chwarae ei rhan mewn ymdrechion byd-eang i leihau allyriadau ac amddiffyn cymunedau a natur yng Nghymru a gweddill y byd rhag tywydd eithafol a newid hinsawdd. Rydym am i'n harweinwyr gwleidyddol ganolbwyntio ar ynni rhad, glân ac ar sicrhau bod gan bawb gartref cynnes, teithio teg a fforddiadwy a'u bod yn gallu anadlu aer glân.

Mae’n amser inni roi stop ar lygredd sy’n niweidiol i ni ac i’n bywyd gwyllt – gan orfodi’r llygrwyr i dalu. Rhaid inni ymrwymo o’r newydd i lanhau ein haer, ein 
hafonydd, ein moroedd a’n tir – fel y gallwn ni i gyd fyw'n iach, yn ddiogel ac yn gynaliadwy mewn Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Share this page