Cwyno, swnian, lobïo!
Published: 26 Apr 2022
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru, a llawer o sefydliadau eraill, yn pwyso i weld newid ar raddfa fawr, gan bawb, o lywodraethau i fusnesau mawr, ond mae hefyd angen i ni barhau i roi pwysau ar ein siopau a marchnadoedd lleol i roi’r gorau i ddefnyddio plastig yn ddiangen.
Chi yw eu cwsmer nhw, y llais pwysicaf yw eich llais chi.
Os ydych chi’n teimlo’r un ffordd â ni, mae'n debyg bod gweld enghreifftiau o or-becynnu ac arferion gwael ym mhob man yn eich gyrru’n benwan! Peidiwch â’i anwybyddu, rhowch wybod i’r archfarchnad/siop/caffi/bwyty/etc eich bod eisiau gweld gwelliannau. Gobeithio y bydd clywed gan eu cwsmeriaid yn eu sbarduno i newid eu ffordd!