Dinasoedd Cymru yn Methu â Chwrdd â Safonau Llygredd Aer Sefydliad Iechyd y Byd (WHO)
Published: 16 May 2018
Mae Caerdydd, Cas-gwent, Casnewydd, Port Talbot ac Abertawe i gyd wedi methu â chwrdd â safonau WHO ar gyfer llygredd PM2.5.
Mae Cyfeillion y Ddaear yn galw ar y DU i gydymffurfio â safonau WHO ar gyfer llygredd aer.
Er bod ehangu cronfa ddata ansawdd aer WHO yn dangos ymwybyddiaeth gynyddol o'r argyfwng iechyd cyhoeddus o lygredd aer, mae hefyd yn pwysleisio ymhellach fod angen gwneud llawer mwy i lanhau'r aer yr ydym yn ei anadlu, a hynny’n gyflym.
Gall llygredd aer o ronynnau achosi canser yr ysgyfaint, a gwaethygu clefyd y galon a chlefyd yr ysgyfaint. Mae ymchwil wedi canfod nad oes yna gyfyngiad diogel o amlygiad. Hefyd, rhan o'r stori yn unig sy’n cael ei hadrodd gan gronfa ddata llygredd aer y WHO, gan nad yw'n cynnwys ffigurau ar y nwyon nitrogen deuocsid angheuol sydd hefyd yn llygru ein haer ni ac yn niweidio ein hiechyd.
Dywedodd Jenny Bates, ymgyrchydd llygredd aer, Cyfeillion y Ddaear:
"Wrth i fwy o ddata ar ansawdd aer ddod ar gael, rydym yn gweld bod nifer brawychus o leoliadau sydd i fod ag awyr iach ledled DU, mewn gwirionedd ag aer peryglus o lygredig. Mae hyn yn dangos yr angen am ymchwil bellach, er mwyn i ni ddeall yn iawn a gwella cyflwr llygredd aer ledled y DU.
"Nid oes y fath beth â lefel ddiogel o lygredd aer, er bod blynyddoedd o hunanfoddhad y llywodraeth yn awgrymu eu bod nhw’n meddwl fel arall.
"Er mwyn iechyd a lles pawb, rydym angen i’r Strategaeth Ansawdd Aer sydd ar ddod i gymryd safbwynt pendant a mynd i'r afael â llygredd aer o bob ffynhonnell. Rydym angen mesurau, gan gynnwys rhwydwaith cenedlaethol cryfach o Barthau Aer Glân, cynllun sgrapio disel a buddsoddi mewn cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus i alluogi cymaint â phosibl o deithio heb gar. "
Mae’r safon ansawdd aer WHO ar gyfer PM2.5 yn gyfartaledd blynyddol o 10 microgram fesul metr giwbig. Mae’r trefi a’r dinasoedd canlynol o’r DU o gronfa ddata WHO ar y lefel hon neu’n uwch. *
- Abertawe
- Armagh
- Biandrate
- Birmingham
- Brighton
- Bristol
- Caerdydd
- Carlisle
- Cas-gwent
- Casnewydd
- Coventry
- Eastbourne
- Eccles
- Gibraltar
- Gillingham
- Grays
- Harlington
- Hull
- Leeds
- Leicester
- Liverpool
- London
- Londonderry
- Manchester
- Middlesbrough
- Newcastle Upon Tyne
- Norwich
- Nottingham
- Oxford
- Plymouth
- Port Talbot
- Portsmouth
- Preston
- Prestonpans
- Royal Leamington Spa
- Salford
- Saltash
- Sandy
- Scunthorpe
- Sheffield
- Southampton
- Southend-On-Sea
- Stanford-Le-Hope
- Stockton-On-Tees
- Stoke-On-Trent
- Storrington
- Thurrock
- Wigan
- York
*mae’r lleoliadau uchod wedi eu cymryd yn uniongyrchol o gronfa ddata WHO, sydd wedi talgrynnu’r ffigurau PM2.5 i’r rhif cyfan agosaf