Cynllun Aer Glân i Gymru - ein hymateb

Published: 5 Aug 2020

Mae'r cynllun hwn yn gam enfawr ymlaen yn ein brwydr i lanhau ein haer ond mae angen gwneud mwy dros gymunedau lleol.

Croesawodd Friends of the Earth Cymru, aelod o cynghrair Awyr Iach Cymru, Gynllun Aer Glân Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 6 Awst).

 

Dwedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru a a Dirprwy Gadeirydd Awyr Iach Cymru:

"Mae'r Cynllun Aer Glan yn golygu bod angen gweithredu ar draws cyrff cyhoeddus, sectorau o'r economi, a ni i gyd i wireddu'r newidiadau rydyn ni gyd am weld a sicrhau gall pawb yng Nghymru anadlu awyr iach.

Bydd angen rhagor o fuddsoddiad, newid ymddygiad, ac yn allweddol Deddf Aer Glan cyn gynted ac sy'n bosib.

Rydyn ni wedi gweld yn ddiweddar bod modd cyflawni newid yn gyflym, ac mae datblygiadau i alluogi pobl i gerdded a beicio yn ddiogel yn wych i'w gweld. Mae angen i ni symud i ffwrdd o ddefnyddio'r car a galluogi pobl ym mhob rhan o Gymru i gael mynediad i drafnidiaeth cyhoeddus yn ogystal a cherdded a beicio - er mwyn aer glan a'r argyfwng hinsawdd."

 

Dywedodd cynghrair y sefydliadau iechyd ac amgylcheddol, Aer Iach Cymru, fod y cynllun yn 'gam enfawr ymlaen' ond maent yn annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy dros gymunedau lleol i sicrhau bod ganddynt y cymorth sydd ei angen arnynt.

 

Dywedodd Joseph Carter Cadeirydd Aer Iach Cymru

Mae'r Cynllun Aer Glân i Gymru yn gam enfawr ymlaen yn ein brwydr i lanhau ein haer a chreu Cymru fwy glân, iach a gwyrdd i bawb. Rydym yn croesawu nod Llywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Aer Glân drawsffurfiol i Gymru a fydd yn lleihau lefelau PM2.5 a NO2 i fod yn is na chyfyngiadau Sefydliad Iechyd y Byd a sicrhau y gall pawb yng Nghymru anadlu aer glanach gydag ysgyfaint iachach a chalonnau iachach.  

"Rydym yn frwdfrydig dros y cyfyngiad cyflymder o 20mya, a fydd yn dod yn gyfyngiad safonol yn y rhan fwyaf o lefydd trefol yng Nghymru - bydd hyn yn helpu i leihau llygredd aer ac annog ffyrdd o fyw mwy iach ac actif, gan ei gwneud yn fwy diogel i bobl gerdded a beicio. Ond rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach i helpu cymunedau lleol, os ydym am weld y cynnydd enfawr sydd ei angen mewn teithio llesol a fydd yn gwneud dewisiadau eraill heblaw am y car yn fwy hyfyw.

 
 

Share this page