Cemegau – am beth ydyn ni’n galw?

Published: 3 Feb 2022

Fe hoffen ni weld 4 prif beth, sef:
People protesting against the use of glyphosate.
Cyfeillion y Ddaear Torfaen yn protestio yn erbyn defnyddio glyffosad.

Yn gyntaf, fe hoffen ni weld Cymru yn llunio ei strategaeth ei hun ar gyfer cemegau er mwyn amddiffyn iechyd pobl, yr amgylchedd a’r hinsawdd rhag cemegau peryglus. Byddai’r gwaith hwn yn cwmpasu cemegau o bob math, o ddeunyddiau amaethyddol a fferyllol i bethau fel paent ac oeryddion.

Yn ail, o gofio bod oergelloedd a rhewgelloedd archfarchnadoedd yn defnyddio oddeutu 1% o gyflenwad trydan y DU, ac o gofio y gellid lleihau hyn yn fawr pe bai archfarchnadoedd yn gosod drysau ar eu hoergelloedd a’u rhewgelloedd i gyd, fe hoffen ni weld yr holl gadwynau archfarchnadoedd yng Nghymru yn ymrwymo i wneud hyn erbyn diwedd 2022. Yn niffyg hyn, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod o hyd i ffordd o gyflwyno deddfwriaeth. Byddai hyn nid yn unig yn arwain at ddefnyddio llai o drydan, ond byddai hefyd yn arwain at ddefnyddio llai o hydrofflworocarbonau.

Er bod y defnydd a wneir o hydrofflworocarbonau wedi bod yn gostwng yn raddol yn sgil Diwygiad Kigali i Brotocol Montreal, awgryma Project Drawdown y byddai ‘lleihau’r galw am declynnau/defnyddio llai o declynnau, a thrwy hynny leihau’r oeryddion a gynhyrchir’, yn ffordd effeithiol o ostwng allyriadau o du oeryddion.

Yn drydydd, fe hoffen ni weld Llywodraeth Cymru yn cael gwared yn raddol â glyffosad yng Nghymru, gan osod amserlen iddi hi ei hun ar gyfer hyn. Mae yna rai pryderon difrifol ynglŷn â glyffosad, o ran iechyd pobl a hefyd o ran iechyd gwenyn a phryfed eraill.

Eisoes, mae gwledydd a rhanbarthau trwy’r byd wedi cymryd camau i wahardd glyffosad neu gyfyngu ar ei ddefnyddio, yn cynnwys Awstria yn 2019.

Dylid mynd ati’n syth i roi’r gorau i ddefnyddio glyffosad mewn mannau a ddefnyddir gan blant, fel parciau a meysydd chwarae.

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Cemegau

Share this page