Cemegau
Published: 3 Feb 2022
Er enghraifft, gall cemegau cyffredin mewn nwyddau glanhau gyfrannu cymaint o gyfansoddion organig anweddol (VOCs) â cherbydau at allyriadau llygredd aer mewn trefi!
Ac mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi’u fflworeiddio a geir mewn oergelloedd, unedau aerdymheru, toddyddion ac aerosolau wedi cynyddu’n fawr yn y DU.
Er mawr syndod, mae ocsid nitrus (N₂O), a elwir hefyd yn nwy chwerthin, oddeutu 300 gwaith yn gryfach na CO2 fel nwy cynhesu byd-eang. Hefyd, dyma’r ‘nwy tŷ gwydr hirhoedlog pwysicaf ond dau, ar ôl carbon deuocsid a methan’.
Am beth ydyn ni’n galw?
Mae’r DU wedi cyflwyno’i fersiwn ei hun o REACH (sef Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau), gan nad yw bellach yn rhan o’r UE. Sefydlwyd REACH gan yr UE er mwyn gwella’r modd y câi bywydau pobl a’r amgylchedd eu hamddiffyn rhag risgiau o cemegau.
Fe hoffen ni weld Cymru yn llunio ei strategaeth ei hun ar gyfer cemegau er mwyn amddiffyn iechyd pobl, yr amgylchedd a’r hinsawdd rhag cemegau peryglus.
A phe bai archfarchnadoedd yn rhoi drysau ar eu hoergelloedd a’u rhewgelloedd i gyd, byddai modd lleihau allyriadau’n fawr, felly fe hoffen ni weld holl gadwynau archfarchnadoedd Cymru yn ymrwymo i wneud hyn erbyn diwedd 2022.