Caffi Trwsio Rhuthun ar waith
Published: 20 Jan 2023
Os ydym am greu dyfodol gwyrddach ac iachach, mae’n rhaid inni fynd i’r afael â’n problem wastraff. Am gyfnod rhy hir, rydym wedi bod yn rhan o economi linol, lle mae cynhyrchion yn cael eu creu i dorri ac yn sicr o orffen eu hoes mewn safle tirlenwi. Mae angen inni symud tuag at economi gylchol, ddiwastraff, lle mae eitemau’n cael eu creu i bara ac mae modd eu hatgyweirio neu eu haddasu i fod yn eitemau newydd. Mae hyn yn rhoi llai o straen ar ein planed, yn arbed arian ac adnoddau, a byddai’n creu swyddi.
Mae cymunedau ar hyd a lled y wlad (a ledled y byd) yn ymateb i’r her drwy agor caffis trwsio; sef hybiau uwchgylchu ac atgyweirio lle mae modd i bobl leol gael atgyweirio eitemau dydd-i-dydd yn rhad ac am ddim.
Chwilio am gaffi trwsio yn eich ardal chi