Caewyd yr orsaf bŵer llosgi glo yn 2020 - ein ymateb

Published: 5 Aug 2019

Cyhoeddwyd heddiw y disgwylir i Aberddawan, yr orsaf bŵer llosgi glo olaf gau yn 2020. (Awst 1af, 2019)

Gan ymateb i’r newyddion hwn, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Mae hi wedi canu ar y diwydiant glo - ni allwn barhau i losgi tanwyddau ffosil mewn argyfwng hinsawdd ac mae’n rhaid i ni roi’r gorau iddi nawr.

“Mae’n newyddion da bod disgwyl i orsaf bŵer llosgi glo olaf Cymru gau. Golyga hyn, ar y cyd â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddiwedd y llynedd na ddylid caniatáu unrhyw weithgarwch cloddio glo newydd yng Nghymru, y byddwn, o’r diwedd, yn gallu dweud bod y diwydiant glo wedi gweld ei ddydd.

“Mae’n rhaid i ni nawr ailafael â’n hymdrechion i leihau allyriadau i sero net, a sicrhau datrysiadau i newid yn yr hinsawdd sy’n cefnogi cymunedau drwy Gymru, gan greu swyddi gwyrdd, a dyfodol cynaliadwy, iach i bawb ohonom heb niweidio ein hinsawdd a’n bywyd gwyllt.

“Ac mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru wneud yn siŵr nad ydynt yn buddsoddi yn y diwydiant tanwyddau ffosil drwy gronfeydd pensiwn neu unrhyw fodd arall.”

Share this page