Bod yn arddwr sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd

Published: 15 Feb 2022

Ni fydd y ffordd yr ydym yn garddio yn ddigon i achub y blaned ar ei phen ei hun ond fel rhan o'r cyfanrwydd o syniadau ac atebion, yna mae gan ein mannau gwyrdd bach ein hunain rôl werthfawr i'w chwarae, nid yn unig o ran lliniaru newid yn yr hinsawdd ond hefyd o ran helpu i ddiogelu bioamrywiaeth.   
Picture of vertical gardening
"Vertical gardening" by Ruth and Dave is licensed under CC BY 2.0

Er enghraifft, mae'r RHS wedi gwneud gwaith diddorol ar sut y gall eich gardd helpu i drechu newid yn yr hinsawdd.  

Mae'n bosibl garddio mewn ffyrdd mwy ecogyfeillgar ac yn yr adrannau isod rydym wedi rhoi rhai syniadau ynghylch sut y gallwn leihau ein hallyriadau ar yr ardd. 

Nid yw'r syniadau hyn yn newydd wrth gwrs felly, o gymorth, mae pentwr o wybodaeth ar gael yn barod i chi. Maen nhw’n amrywio o arddio organig, cynhyrchu eich compost eich hun, osgoi compost mawn, plannu coed, cadw adnoddau dŵr gwerthfawr a garddio fertigol mewn mannau bach.  

Os ydych chi'n meddwl am brosiect pren neu ddecin yn eich gardd, ceisiwch sicrhau bod y pren rydych chi'n mynd i'w ddefnyddio yn cael ei ailgylchu (yn ddelfrydol) a/neu o ffynonellau coedwigaeth cynaliadwy. 

 

Mae defnyddio dŵr o ansawdd gradd yfed i ddyfrio planhigion gardd yn ymddangos yn hurt o gofio bod llawer o ynni'n cael ei ddefnyddio i drin a dosbarthu dŵr i'n cartrefi felly gosodwch gasgenni dŵr a mesurau arbed dŵr eraill os gallwch chi.   

 

Mannau gwrydd - pethau y gallwn ni eu gwneud

Dŵr – pethau y gallwn ni eu gwneud

Amdani!

Share this page