Bocs babi cynaliadwy i rieni newydd yng Nghymru

Published: 6 Jan 2020

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi bocs babi cynaliadwy i holl rieni newydd Cymru fel rhan o'i strategaeth ddiwastraff newydd, 'Mwy nag Ailgylchu'.

Byddai bocs babi cynaliadwy yn lleihau gwastraff, arbed arian a chreu swyddi, gan roi hwb i economi gwyrdd Cymru.

 

Gall y bocs babi gynnwys, er enghraifft, clytiau golchadwy, y cyfle i elwa o wasanaeth golchi clytiau fforddiadwy cysylltiedig newydd a gyda chynnyrch cynaliadwy o gwmnïau yng Nghymru yn ddelfrydol, ac felly'n helpu i greu mwy o swyddi eto fyth.  

 

Mae clytiau untro yn cymryd 500 mlynedd i ddadelfennu ac maent yn rhyddhau nwy methan gwenwynig i'r amgylchedd. Erbyn i'r babi ddechrau defnyddio'r toiled, gallant fod wedi defnyddio rhwng 4,000 a 6,000 o glytiau untro. 

 

Amcangyfrifir bod 200 miliwn o glytiau untro yn cael eu defnyddio yng Nghymru bob blwyddyn, sy'n ffurfio 10% o wastraff bag du. Pe bai pob un o'r clytiau budur yma yn mynd i safleoedd tirlenwi, byddai'n creu 26343.52 tunnell o wastraff, ac yn costio tua £2.4 M mewn treth tirlenwi i gynghorau Cymru.

 

Mae clytiau untro yn ddrud, gyda rhieni yn gwario tua £800 - £1000 ar glytiau untro yn ystod oes plentyn, a thros £250 ar gynnyrch cysylltiedig fel hancesi gwlyb babi, bagiau clytiau a biniau clytiau.

 

Amcangyfrifir y byddai newid i ddefnyddio clytiau golchadwy yn arbed tua £150 y flwyddyn.

 

Os yw rhieni yn dewis y brandiau adnewyddadwy rhataf, gallant arbed hyd at £800 y flwyddyn.

Dywedodd Becky Harford, Swyddog Ymgyrchoedd Cymunedau ac Actifiaeth:

 

"Pob blwyddyn, mae nifer sylweddol o glytiau budur yn mynd i safleoedd tirlenwi neu yn cael eu llosgi.

 

Os ydym o ddifrif ynghylch dod yn gymdeithas ddiwastraff yng Nghymru, mae'n rhaid inni ddatrys y broblem clytiau. Mae'n rhaid i ailddefnyddio ddod yn arferiad, yn hytrach nag anarferol, a bocs babi cynaliadwy yw'r cam cyntaf tuag at lwyddo gyda hyn.

 

'Oherwydd bydd helpu rhieni i wneud y newid i glytiau golchadwy yn lleihau'r mynydd cynyddol o wastraff clytiau. 

 

'Mae cael babi yn gostus i'ch poced a'r amgylchedd. Byddai bocs babi cynaliadwy yn helpu rhieni newydd gyda chostau plentyn a'u cefnogi i ddefnyddio clytiau golchadwy.'

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr ymgyrch hwn, cysylltwch â Becky Harford.

 

Diolch yn fawr i Gyfeillion y Ddaear Caerdydd am noddi'r ymgyrch Bocs Babi Cynaliadwy.

 

 

 

Share this page