Gwnewch DIY ecogyfeillgar

Published: 4 Feb 2022

Yn ôl pob golwg, caiff cynifer â 50 miliwn litr o baent o blith y 320 miliwn litr a werthir yn y DU bob blwyddyn eu gwastraffu.
Paintbrushes
Photo by RhondaK Native Florida Folk Artist on Unsplash

 

Mae Community RePaint yn amcangyfrif bod 50 miliwn litr o baent a werthir yn y DU bob blwyddyn yn cael eu gwastraffu.

Cânt eu taflu, neu maen nhw’n hel llwch mewn garejis a siediau.

Mae un adroddiad hŷn yn cynnwys ffigurau sy’n amcangyfrif bod gan un tun paent 5 litr gan gwmni gweithgynhyrchu enwog ôl troed carbon o 13.58 kg CO2e (cyfwerth â CO2). Pan ysgrifennwyd yr adroddiad hwn, a chan edrych ar yr holl duniau paent sydd heb eu defnyddio, mae hyn yn cyfateb i gymaint â 100,000 tunnell o CO2e.

Rhwydwaith ailddefnyddio paent sy’n gweithio ledled y DU yw Community RePaint, ac mae’n cymryd paent sydd heb gael ei ddefnyddio ac yn ei ailddosbarthu er budd unigolion, teuluoedd, cymunedau ac elusennau mewn angen, am bris rhesymol.

Os oes gennych chi baent yn hel llwch, neu os ydych chi angen rhywfaint o baent ar gyfer joben fechan, yna cadwch y cynllun hwn mewn cof, arbedwch rywfaint o arian, cefnogwch achosion da ac ewch ati i leihau eich ôl troed carbon.

Diwastraff - pethau y gallach chi eu gwneud

Cemegau - pethau y gallwch chi eu gwneud

Cemegau

Amdani!

Share this page