Ynni – am beth ydyn ni’n galw?
Published: 4 Feb 2022
Nid yw Llywodraeth Cymru yn llwyr gyfrifol am y capasiti ynni adnewyddadwy ychwanegol a gaiff ei adeiladu, oherwydd y DU sy’n rheoli’r prif ddulliau cymorth ariannol (Contractau Gwahaniaeth, y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy).
Er y bydd modd adeiladu rhywfaint o gapasiti ynni adnewyddadwy heb gymorthdaliadau (e.e. Pant y Maen), bydd nifer o brosiectau’n dal i fod angen pris gwarantedig gan Gontract Gwahaniaeth, er enghraifft Morlyn Llanw Abertawe. Hefyd, mae cyfyngiadau’n ymwneud â’r grid – sydd hefyd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru – yn effeithio ar dwf ynni adnewyddadwy.
Erbyn 2035, dylai Llywodraeth Cymru anelu at ddiwallu holl anghenion trydan Cymru trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru (yn cynnwys ystyried yr angen am gapasiti cynhyrchu mwy ar gyfer trydaneiddio gwres a thrafnidiaeth, a chynhyrchu hydrogen), gan gynnwys trwy gapasiti ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i gymunedau.
Rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio Cymru’r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040 i wneud Cymru mor atyniadol â’r Alban ar gyfer adeiladu cyfleusterau newydd i gynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy, a dylai lobïo er mwyn sicrhau y caiff y rhwystrau eu chwalu (e.e. cyfyngiadau’n ymwneud â’r grid, cyfleoedd yn ymwneud â Chontractau Gwahaniaeth).
Dylai strategaeth ddiwydiannol Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy fanteisio ar arbenigedd prifysgolion ac ar egni busnesau newydd, a hefyd rhaid cael ymrwymiad gwleidyddol cryf er mwyn sicrhau llwyddiant.