Ynni
Published: 4 Feb 2022
Y ffordd fwyaf gwyrdd a fforddiadwy o sicrhau ynni ar gyfer y DU yw trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Hefyd, rhaid inni ymdrechu’n galed i ddefnyddio llai o ynni; wedi’r cwbl, dyna’r peth symlaf a rhataf y gallwn ni ei wneud, ond yn aml caiff ei fwrw dros gof.
Erbyn hyn, mae ynni adnewyddadwy yn rhatach o lawer, yn gyflymach i’w adeiladu, ac yn lanach nag ynni niwclear, a dyna pam mae Cyfeillion y Ddaear yn gwrthwynebu’r syniad o ddatblygu gorsafoedd ynni niwclear newydd.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae yna newidiadau mawr wedi digwydd o ran ble yn union y cawn ni ein trydan. Yn 2020, deilliodd mwy o drydan y DU o ynni adnewyddadwy nag o danwyddau ffosil. Ac yng Nghymru, daeth 51% o’r trydan a ddefnyddiwyd yn 2019 o ffynonellau adnewyddadwy.
Ond roedd trydan a chynhyrchu gwres yn dal i fod yn gyfrifol am 19% o allyriadau Cymru yn 2019; ac o’r herwydd, hwn oedd y sector gwaethaf ond un o ran allyriadau (tudalen 56).
Am beth ydyn ni’n galw?
Erbyn 2035, dylai Llywodraeth Cymru anelu at ddiwallu holl anghenion trydan Cymru trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru.
Dylai ddefnyddio Cymru’r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040 i wneud Cymru mor atyniadol â’r Alban ar gyfer adeiladu cyfleusterau newydd i gynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy, a dylai lobïo er mwyn sicrhau y caiff y rhwystrau eu chwalu.
Dylai strategaeth ynni adnewyddadwy Cymru fanteisio ar arbenigedd prifysgolion ac ar egni busnesau newydd. Bydd ymrwymiad gwleidyddol cryf yn siŵr o sicrhau llwyddiant.