Hedfan yn llai aml

Published: 21 Apr 2022

Mae hedfan yn gyfrifol am oddeutu 2% o allyriadau hinsawdd y DU.

Picture of an aeroplane in the sky

 

Mae’n cyfrannu hefyd atnewid hinsawdd oherwydd amrediad o effeithiau di-CO2 sy’n digwydd yn yr awyr. Mae ymchwil mwyaf diweddar yn dangos y gallai’r effeithiau ‘di-CO2’ hyn ddyblu effeithiau cynhesu awyrennau, gan olygu bod cyfraniad y diwydiant at newid hinsawdd byd-eang yn fwy arwyddocaol nac mae amcangyfrifon presennol yn eu hawgrymu.’ 

Mae prisiau hedfan yn rhad, yn rhannol gan nad oes rhaid talu TAW ar hediadau rhyngwladol ac nid yw cwmnïau hedfan yn talu trethi ar danwydd cerosin. Awgrym diddorol yw cyflwyno cost ar gyfer y rhai sy'n hedfan yn aml neu ardoll neu dreth. Ni fyddai hyn yn dod i rym gyda hediad cyntaf y flwyddyn ond yn gymwys o ail hediad y flwyddyn ymlaen gan dargedu’r rhai sy’n hedfan yn aml yn hytrach na theuluoedd cyffredin.  

Yn y cyd-destun hwn mae’n debyg ein bod ni i gyd yn gwybod y dylen ni hedfan yn llai aml (os o gwbl) ond beth allwn ni ei wneud? 

Yn unigol yn amlwg gallwn ni ddewis peidio â hedfan a gallwn wneud hyn yn fwy cyhoeddus wrth lofnodi addewid fel yr un hwn

Os ydych chi’n ystyried hedfan, gwiriwch swm yr allyriadau gan ddefnyddio’r gyfrifiannell garbon hon. Byddai hediad dwyffordd o Lundain i Rufain er enghraifft yn allyrru 234kg o CO2. 

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau wrth gwrs, gallwch chi ofyn i’ch cyflogwr i gyflwyno’r cysyniad o Fanteision Hinsawdd <https://www.climateperks.com/> neu Ddiwrnodau Teithio pan mae gweithwyr yn cael diwrnod o dâl ar ddechrau eu gwyliau a diwrnod o dâl ar ddiwedd eu gwyliau er mwyn cyrraedd pen y daith mewn ffordd wahanol i hedfan.

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Trafnidiaeth

Amdani!

Share this page