Ewch ar eich beic, ar droed neu ar eich sgwter

Published: 20 Apr 2022

Fasech chi’n gallu cyrraedd eich gweithle ar gefn beic?

Picture of people cycling on a main road

 

Oes gan eich gweithle gyfleusterau da ar gyfer beicwyr? Os na, a oes modd i chi a’ch cydweithwyr ystyried hyn? Mae Cynlluniau Beicio i'r Gwaith yn gallu cynnig grantiau a helpu cyflogwyr a gweithwyr cyflogedig.

Mae’r Ddeddf Teithio Llesol yng Nghymru yn golygu bod rhaid i awdurdodau lleol ymateb i fentrau cerdded a beicio. Mae gan Lywodraeth Cymru ddolenni defnyddiol y gallwch eu defnyddio er mwyn gwirio gwaith eich cyngor lleol. Os ydych chi’n credu nad ydynt yn gwneud digon – rhowch bwysau arnynt i wneud rhagor. 

Mae gan Sustrans Cymru'r holl wybodaeth angenrheidiol ar Y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, syniadau ar gyfer teithiau beicio ar gyfer y teulu, gwybodaeth am deithiau beicio mwy heriol a llawer o wybodaeth ddefnyddiol arall.

Mae Cycling UK hefyd yn wefan wych i ymweld â hi er mwyn cael gwybodaeth.

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Trafnidiaeth

Amdani!

Share this page