Ffarwelio â derbynebau papur
Published: 14 Jan 2022
Yn UDA, cafwyd ymgyrch Skip the Slip lwyddiannus yng Nghaliffornia a arweiniodd at gyflwyno Bil sy'n gorchymyn manwerthwyr i gynnig derbynebau digidol i gwsmeriaid fel yr opsiwn arferol.
Gwastraff papur
Bob blwyddyn, bydd manwerthwyr yn y DU yn dosbarthu tua 11.2 biliwn o dderbynebau til, sy'n costio o leiaf £32 miliwn i'w gwneud. Bydd y mwyafrif o'r rhain heb eu gwneud o bapur wedi'i ailgylchu, felly mae hyn yn golygu bod tua 87,000 o goed yn cael eu torri bob blwyddyn ar gyfer derbynebau yn unig!
Yn fyd-eang, mae hyn yn codi i tua 300 biliwn o dderbynebau papur yn cael eu cynhyrchu bob blwyddyn, sy'n defnyddio 25 miliwn o goed, 22 miliwn casgen o olew a 18bn litr o ddŵr.
Mae'n defnyddio cemegion niweidiol
Yn ogystal â defnyddio swm annisgwyl o bapur, defnyddir cemegion o'r enw Bisffenolau ar dderbynebau. Grŵp o gemegion synthetig yw'r rhain ac maent yn cael eu defnyddio i wneud rhai plastigau, a phapur thermol ar gyfer tocynnau a derbynebau.
Mae'r mwyafrif llethol o dderbynebau'n cael eu hargraffu ar yr hyn a elwir yn bapur thermol. Nid yw'n bosib ailgylchu hwn ac mae haen o sylwedd o'r enw bisffenol A (BPA), neu BPS – sylwedd a ddefnyddir yn ei le weithiau, drosto. Mae bisffenol A yn cael ei gynhyrchu ar gyfradd o tua 2.7 miliwn tunnell y flwyddyn.
Mae'r ddau sylwedd uchod wedi cael eu gwahardd rhag cael eu defnyddio mewn cynhyrchion plastig eraill, megis biceri a photeli dŵr. Maent yn gallu amharu ar gydbwysedd yr hormonau yn y corff, gan achosi anffrwythlondeb a phroblemau eraill. Mae ymchwil yn awgrymu bod y ddau sylwedd yn cronni yn y corff.
Dyma restr ddefnyddiol o'r archfarchnadoedd mawr i chi gael gweld ble maen nhw arni, yn ogystal â graffigyn taclus yn esbonio sut mae'r cemegion yn ein cyrraedd ni a'r amgylchedd.
Gweithredwch!
Ceisiwch ddod i'r arfer o ddweud 'NA' pan fyddwch yn cael cynnig derbynneb. Os yw eich hoff siop leol neu gaffi yn dal i roi derbynebau heb ofyn i gwsmeriaid yn gyntaf, efallai y gallwch ofyn iddynt newid hynny.
Dechreuwch ddweud 'NA, dim diolch' os nad oes angen y dderbyneb arnoch, a gofyn i'ch siopau a chaffis lleol roi'r gorau i gynnig derbynebau fel y drefn arferol. Yn ddelfrydol, ni ddylid argraffu a dosbarthu derbynebau oni bai fod cwsmeriaid yn gofyn yn benodol am un.
Papur - pethau y gallwn ni eu gwneud