Cwyno, swnian, lobïo!

Published: 14 Jan 2022

Dywedwch wrth benderfynwyr eich bod eisiau llai o ddeunydd pacio, rhoi'r gorau i gael derbynebau papur, mwy o gynhyrchion papur wedi'i ailgylchu ac ati.  
Picture of someone at a laptop
Llun gan Christin Hume ar Unsplash

 

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru a llawer o sefydliadau eraill yn pwyso i gael newid graddfa fawr yn gyffredinol gan lywodraethau a busnesau.  

Ond, y llais pwysicaf yw eich llais chi. Os ydych yn awyddus i weld newid er gwell, y peth cyntaf a'r peth gorau y gallwch ei wneud yw cwyno, swnian a lobïo busnesau, eich cynghorau lleol, a'ch cynrychiolwyr yn Senedd Cymru a Senedd y DU.   

Dywedwch wrthynt eich bod eisiau llai o ddeunydd pacio, rhoi'r gorau i gael derbynebau papur, mwy o gynhyrchion papur wedi'i ailgylchu ac ati.   

Bydd busnesau a gwleidyddion yn gweithredu os bydd digon ohonom yn cwyno ac yn dal i gwyno! Nid oes rhaid ichi aros am ymgyrchoedd wedi'u trefnu i leisio eich barn. Gallwch ddweud wrth y cwmnïau, gwleidyddion a busnesau hyn beth yw eich barn.  

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Papur

Amdani!

Share this page