Newid i glytiau go iawn

Published: 28 Mar 2022

Wyddoch chi, pob blwyddyn yng Nghymru, rydym yn anfon tua 250 miliwn o glytiau i safleoedd tirlenwi neu i’w llosgi?

Dirty nappies in a bin

 

Neu ei bod hi’n cymryd 1,500 litr o olew crai i gynhyrchu digon o glytiau untro i bara o’r adeg y caiff babi ei eni hyd at pan fydd yn ddyflwydd a hanner?

Mae’r fideo bach hyfryd yn egluro pethau ychydig mwy. 

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ‘nabod yn aros i groesawu aelod bach newydd i’r teulu ac yn meddwl am glytiau, yna beth am roi cynnig ar glytiau go iawn?

Mae llawer o wahanol fathau, a bydd gwahanol rai yn siwtio gwahanol fabis ond gallwch chi leihau yn arw ar eich gwastraff a’ch defnydd o blastig drwy newid i glytiau y gallwch eu golchi.  

Am fwy o syniadau am beth allwch chi ei wneud o ran materion gwastraff, edrychwch ar ein hadran Dim Gwastraff.

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Ffasiwn Gynaliadwy

Amdani!

Share this page