Dŵr – beth yw’r broblem?
Published: 28 Feb 2022
Gall Cymru fod yn wlyb iawn! Mae pawb yn gwybod hynny.
Yng Nghymru, mae’r glawiad cyfartalog yn 1.4 m y flwyddyn - mae hynny gyfystyr â thaldra cyfartalog plentyn 8 oed o law dros Gymru gyfan.
Yr hyn sy’n llai cyfarwydd efallai yw mai’r diwydiant dŵr yw’r pedwerydd sector trymaf ar ynni yn y DU ac mae Waterwise yn amcangyfrif bod y diwydiant yn gyfrifol am ryw 1% o allyriadau carbon y DU.
Dŵr Cymru, er enghraifft, yw un o’r defnyddwyr ynni mwyaf yng Nghymru (467 GWh yn 2015/16 (t.127) i bwmpio a thrin dŵr a dŵr gwastraff) ac ar hyn o bryd maent yn cynhyrchu 20% o’u hanghenion ynni eu hunain drwy ffynonellau adnewyddadwy.
Mae pryderon hefyd ar draws y ffin y bydd Lloegr yn mynd yn brin o ddŵr ymhen 25 mlynedd. Mae cwmnïau dŵr yno yn gweld mai newid hinsawdd yw’r risg weithredol fwyaf iddynt. Erbyn 2040, disgwylir i fwy na hanner o hafau’r DU fod yn boethach na thywydd poeth 2003.
Mae cwmnïau yno wedi ymrwymo i gyflawni allyriadau carbon ‘sero net’ erbyn 2030.
Yn ôl Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd (CIWEM): ‘Mae agwedd bwysig ar leihau allyriadau yn ymwneud â lleihau faint o ddŵr sydd wedi’i drin yn helaeth sydd angen ei gyflenwi.’
Mae pawb ohonom yn gwybod am effaith ofnadwy ‘tlodi tanwydd’ ond yma yn y DU, mae tua 1.5 miliwn o gartrefi yn byw mewn ‘tlodi dŵr’, ac mae 3 miliwn arall bron â bod hefyd. Yn y cyd-destun hwnnw, mae’n fwy angenrheidiol fyth ein bod ni’n edrych ar fesurau i arbed dŵr.
Yn y DU, mae pob unigolyn yn defnyddio tua 150 litr o ddŵr pob diwrnod, ffigur sydd yr un fath yng Nghymru hefyd ac sydd wedi bod yn codi 1% pob blwyddyn ers 1930. Os ydym ni’n ystyried faint o ddŵr sydd ei angen i gynhyrchu’r bwydydd a’r nwyddau rydym ni’n mynd drwyddynt yn ein bywyd o ddydd i ddydd (a elwir yn ddŵr corfforedig), rydym ni mewn gwirionedd yn defnyddio 3400 litr y diwrnod.
Ar hyn o bryd, mae trigolion Copenhagen yn defnyddio ryw 110 litr o ddŵr y pen pob diwrnod. Rhagwelir y bydd defnydd dŵr yn codi yn y dyfodol, felly pa darged ddylen ni fod yn anelu ato yng Nghymru?
Mae Project Drawdown yn amcangyfrif:
‘Mae angen ynni i lanhau, cludo a gwresogi dŵr. Gall gosodiadau ac offer mwy effeithlon leihau yn sylweddol faint o ddŵr mae cartrefi yn ei ddefnyddio, sydd felly yn lleihau allyriadau.’
‘Wrth fabwysiadu 81-92 y cant o dapiau a phennau cawod llif isel erbyn 2050 (fyny o 59 y cant o’r farchnad a amcangyfrifir), gallai hyn leihau allyriadau carbon deuocsid o 1-1.6 biliwn tunnell, drwy leihau faint o ynni sy’n cael ei ddefnyddio i wresogi dŵr a wastreffir.’
Mae’n faes ble mae’n ddigon hawdd a chyflym i bawb ohonom helpu, drwy ddefnyddio a gwastraffu llai o ddŵr a fydd yn lleihau ein hôl troed carbon, yn arbed arian yn ein cartrefi ac yn amddiffyn adnoddau dŵr.