Cwyno, plagio, lobïo!

Published: 28 Feb 2022

Dywedwch wrth y rheiny sy’n gwneud penderfyniadau eich bod chi eisiau mwy o orsafoedd ail-lenwi dŵr, mwy o fesurau arbed dŵr, mwy o systemau cynaeafu dŵr glaw.
Picture of someone at a laptop
Llun gan Christin Hume ar Unsplash

 

 

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru a llawer o fudiadau eraill yn pwyso am newid y darlun mawr ar draws y bwrdd gan lywodraethau i fusnesau. 

Ond eich llais chi sydd bwysicaf. Os hoffech chi weld newid er gwell, yna’r peth cyntaf a’r peth gorau y gallwch chi wastad ei wneud yw cwyno, plagio a lobïo busnesau, eich cynghorau lleol, eich Aelodau Senedd a’ch Aelodau Seneddol.

Dywedwch wrthynt eich bod chi eisiau mwy o orsafoedd ail-lenwi dŵr, mwy o fesurau arbed dŵr, mwy o systemau cynaeafu dŵr glaw.

Bydd busnesau a gwleidyddion yn gweithredu os bydd digon ohonom yn cwyno ac yn dal ati i gwyno! Nid oes angen i chi aros am ymgyrchoedd sydd wedi’u trefnu er mwyn cael gwrandawiad, dywedwch wrth y cwmnïau, y gwleidyddion a’r busnesau hyn beth sydd ar eich meddwl chi. 

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Dŵr

Amdani!

Share this page