Dŵr
Published: 28 Feb 2022
Y diwydiant dŵr yw’r pedwerydd sector trymaf ar ynni yn y DU.
Yn y DU, mae pob person yn defnyddio tua 150 litr o ddŵr pob diwrnod, ffigur sydd yr un fath yng Nghymru hefyd ac sydd wedi codi 1% pob blwyddyn ers 1930.
Mae pawb ohonom yn gwybod am effaith ofnadwy tlodi tanwydd ond yma yn y DU, mae tua 1.5 miliwn o gartrefi yn byw mewn ‘tlodi dŵr’, ac mae 3 miliwn arall bron â bod hefyd. Yn y cyd-destun hwnnw, mae’n fwy angenrheidiol fyth ein bod ni’n edrych ar fesurau i arbed dŵr.
Am beth ydym ni’n galw?
Dylai Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru a rhanddeiliaid eraill ddatblygu targedau cenedlaethol ar gyfer defnydd dŵr y pen a chydweithio i ddatblygu meddylfryd o arbed dŵr yng Nghymru a fydd hefyd yn helpu i warchod cartrefi incwm isel rhag ‘tlodi dŵr’
Wrth i ni geisio defnyddio a gwastraffu llai o ddŵr, bydd hyn yn lleihau ein hôl-troed carbon, yn arbed arian yn ein cartref ac yn amddiffyn ein hadnoddau dŵr.