Rhoi’r gorau i ddefnyddio weipiau
Published: 26 Apr 2022
Mae’n siŵr ein bod i gyd wedi gweld y newyddion dros y blynyddoedd diwethaf.
Weipiau gwlyb sy’n bennaf ar fai. Roedd weipiau’n gyfrifol am dros 90% o'r deunydd a oedd yn achosi rhwystrau i garthffosydd yr ymchwiliwyd iddynt gan Water UK yn 2017.
Mae weipiau gwlyb hefyd yn cyrraedd ein moroedd, ein hafonydd a’n traethau.
Mae nifer aruthrol ohonynt yn cael eu cynhyrchu, ac i roi rhywfaint o raddfa i chi... mae un cwmni o’r UDA (Nice-Pak), yn cynhyrchu dros 125 biliwn o weipiau’r flwyddyn, a dim ond nhw’n unig yw hynny. Os yw maint weip gwlyb arferol tua 6-modfedd (15cm) sgwâr, yna byddai gwerth un flwyddyn o weipiau gwlyb, o’r un cwmni hwnnw yn unig, yn cyrraedd y lleuad ac yn ôl dros 24 gwaith.
Ac maent yn ddrud! Mae Water UK yn nodi: 'Yn y DU yn unig, mae cwmnïau dŵr yn gwario tua £88 miliwn o arian ein cwsmeriaid i glirio tua 360,000 o rwystrau yn y rhwydwaith carthffosiaeth yn flynyddol.'
Y peth gorau yw dweud ‘na’ i weipiau gwlyb. Os na allwch chi, ewch am rai sy'n wirioneddol fioddiraddadwy/compostadwy – neu gwnewch eich rhai eich hunain – a pheidiwch fyth â'u fflysio!