Codi sbwriel wrth wneud ymarfer corff
Published: 26 Apr 2022
Ystyr ‘plogio’ yw codi sbwriel wrth loncian, yn y bôn!
Dechreuodd hyn yn Sweden ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae nifer o bobl ledled y byd wedi troi eu llaw ato.
Mae’n ffordd braf o helpu i lanhau eich ardal leol wrth gadw'n heini ar yr un pryd. Unwaith y byddwch wedi dechrau arni, byddwch wrth eich bodd!
Os nad ydych chi’n mwynhau rhedeg, efallai y gallwch chi roi cynnig ar godi sbwriel wrth gerdded neu feicio?
Neu efallai y gall Dhruv Boruah, Sian Sykes ac Wayne Dixon a’i gi Koda eich ysbrydoli chi?