Plastigau, cemegau a newid hinsawdd

Published: 4 Feb 2022

Lleihau ein defnydd o gynhyrchion plastig, gwrtaith, dillad a glanedyddion ac ati, nid yn unig y gallwn leihau faint o gemegau niweidiol a ddefnyddiwn ond gallwn hefyd helpu i leihau ein hallyriadau hinsawdd.
Seagull paddling in the sea with a crisp packet in its mouth
Ingrid Taylar

Nid yw’r cysylltiad rhwng plastigau ac allyriadau newid hinsawdd wedi cael hanner cymaint o sylw â’r sbwriel plastig amlwg y mae pob un ohonon ni’n ymwybodol iawn ohono erbyn hyn.

Fodd bynnag, mae’r Asiantaeth Ynni Ryngwladol (IEA) wedi proffwydo y bydd plastigau a deunyddiau petrocemegol eraill yn helpu i sbarduno galw byd-eang am olew ar yr union adeg pan mae’r galw am olew ar gyfer trafnidiaeth yn lleihau.

Ar hyn o bryd, mae petrocemegau yn gyfrifol am oddeutu 12% o’r galw byd-eang am olew. Disgwylir i’r galw hwn gynyddu yn sgil y galw am ragor o blastigau, gwrteithiau a deunyddiau eraill, a disgwylir y bydd petrocemegau’n gyfrifol am fwy na thraean y twf yn y galw am olew erbyn 2030 a bron i hanner y twf erbyn 2050 (mwy na morgludo a hedfan!)

Nid yr allyriadau olew a nwy ychwanegol yn unig y dylen ni boeni amdanyn nhw mewn perthynas â phlastigau, oherwydd caiff nifer o Gemegau sy’n Ymyrryd ag Endocrinau (EDCs) eu defnyddio wrth weithgynhyrchu rhai plastigau.  

Trwy leihau faint o ddeunyddiau plastig, gwrteithiau, dillad a glanedyddion ac ati a ddefnyddiwn, fe allwn ni nid yn unig leihau faint o gemegau niweidiol a ddefnyddiwn, ond hefyd fe allwn ni helpu i leihau ein hallyriadau hinsawdd.

Edrychwch ar ein hadran Dim Gwastraff i gael syniadau ynglŷn â sut i ddefnyddio llai o blastig, cymerwch gipolwg ar ein hadran Mannau Gwyrdd i weld pa gamau y gallwch eu cymryd o ran gwrteithiau, ac ewch i’n hadran Ffasiwn a Thecstilau i gael syniadau ar gyfer dillad.

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Cemegau

Amdani!

 

Share this page