Glyffosad
Published: 3 Feb 2022
Mae glyffosad i’w gael mewn nifer o chwynladdwyr a gall gael effaith ddrwg ar iechyd pobl a’r amgylchedd, yn cynnwys gwenyn mêl.

Gallwch helpu trwy beidio â defnyddio glyffosad yn eich cartref.
Mae gan yr RHS gyngor ynglŷn â garddio lle rhestrir pa gynhwysion actif a gynhwysir mewn nifer o chwynladdwyr, yn cynnwys glyffosad – efallai y bydd yr wybodaeth hon o fudd ichi wrth benderfynu pa chwynladdwyr i’w hosgoi.
Hefyd, mae gan Gymdeithas y Pridd wybodaeth gyffredinol am glyffosad ynghyd â rhestr o gamau ychwanegol y gallwch eu cymryd.