Gwaredu meddyginiaethau

Published: 4 Feb 2022

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd â hen feddyginiaethau neu feddyginiaethau sydd heb eu defnyddio i’ch fferyllfa leol fel y bydd modd cael gwared â nhw yn y ffordd briodol, yn hytrach na’ch bod yn eu golchi i lawr y tŷ bach neu’n eu rhoi mewn safle tirlenwi.
Picture of pill packets
Llun gan Volodymyr Hryshchenko ar Unsplash

Mae CHEMTrust wedi darganfod bod tabledi atal cenhedlu, gwrthiselyddion (fel Prozac), tawelyddion, gwrthfiotigau, cyffuriau lladd poen a chyffuriau atal canser yn halogi pysgod.

Hefyd, maen nhw wedi dod o hyd i olion cyffuriau gwrthlidiol a chyffuriau lladd poen mewn ffwr dyfrgwn.

Mae Anadlyddion Dos Mesuredig (MDI) (tudalennau 15-18) yn defnyddio nwyon sydd â Photensial Cynhesu Byd-eang (GWP) mawr, sef hydrofflworocarbonau. Yn aml, mae gan hydrofflworocarbonau, a nwyon-F yn gyffredinol, Botensial Cynhesu Byd-eang sydd filoedd o weithiau’n fwy pwerus na CO2.

Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn amcangyfrif mai nwyon-F oedd yn gyfrifol am oddeutu 3% o holl allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU yn ystod 2015.

Gall gwaredu anadlyddion yn y ffordd anghywir beri i’r nwyon hyn gael eu rhyddhau i’r atmosffer.

 

Mae Recyclenow yn amcangyfrif bod oddeutu 73 miliwn o anadlyddion yn cael eu defnyddio yn y DU bob blwyddyn. Pe bai pawb sy’n defnyddio anadlyddion yn y DU yn dychwelyd eu hanadlyddion am flwyddyn, fe allai hynny arbed 512,330 tunnell o allyriadau cyfwerth â CO2.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio ble y gallwch ailgylchu eich anadlyddion yn y ffordd iawn yn eich ardal.

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Cemegau

Amdani!

 

Share this page