Cemegau – beth yw’r broblem?
Published: 3 Feb 2022
Mae’r cemegau a gynhyrchir drwy’r byd wedi dyblu fwy neu lai ers y flwyddyn 2000, a bellach, dyma’r diwydiant mwyaf ond un yn y byd – os ystyriwn ni’r elfen fferyllol hefyd.
Amcangyfrifir bod oddeutu 143,000 o sylweddau cemegol gwahanol wedi’u cofrestru. Wrth gwrs, gwyddom am yr hyn y mae rhai cemegau yn ei wneud o ran dinistrio bioamrywiaeth. Gall defnyddio gormod o ffosfforws a nitrogen mewn deunyddiau amaethyddol gyfrannu at barthau marw yn y môr, a gall cemegau a ddefnyddir mewn deunyddiau fel elïau haul effeithio ar ecosystemau riffiau cwrel. Ond yn ôl pob tebyg, ychydig a wyddys am rôl rhai cemegau a rôl y diwydiant cemegau o ran helpu i sbarduno’r anhrefn hinsawdd.
Mae gan y diwydiant cemegau ei hun ôl troed carbon enfawr drwy’r byd a gall y cemegau eu hunain effeithio’n ddirfawr ar yr hinsawdd.
Yn ôl y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC): ‘Fodd bynnag, daw’r allyriadau yn y sector hwn o du nifer cymharol fechan o allbynnau allweddol: ethylen, amonia, asid nitrig, asid adipig a chaprolactam a ddefnyddir wrth gynhyrchu plastigau, gwrteithiau a ffibrau synthetig.’
Hefyd, ceir tystiolaeth sy’n awgrymu y gall rhai cemegau pob dydd fod yn niweidiol ac nad yw llawer o bobl yn ymwybodol o hyn. Yn wir, mae gan gemegau sy’n ymyrryd â hormonau y potensial i effeithio ar ffrwythlondeb pobl drwy’r byd. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae gwir angen mynd i’r afael â llygredd cemegol, oherwydd disgwylir i’r cemegau a gynhyrchir drwy’r byd ddyblu erbyn 2030.
Yn ddiddorol, darganfu astudiaeth y gall cemegau cyffredin, fel y rhai a gynhwysir mewn deunyddiau glanhau, gyfrannu cymaint o gyfansoddion organig anweddol (VOCs) â cherbydau at allyriadau llygredd aer mewn trefi.
Hefyd, bydd yr anhrefn hinsawdd yn effeithio ar ymddygiad rhai cemegau yn ein hamgylchedd, gan ddod â ni i gysylltiad â chemegau mwy niweidiol fyth o bosibl.
Mynd i’r afael â’r anhrefn hinsawdd!
Nwyon o waith dyn yw nwyon wedi’u fflworeiddio (‘nwyon-F’), a chânt eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau diwydiannol, megis mewn oergelloedd, unedau aerdymheru, toddyddion ac aerosolau.
Datblygwyd hydrofflworocarbonau fel dewisiadau amgen yn lle sylweddau sy’n teneuo’r osôn, ond yn anffodus mae eu potensial o ran cynhesu byd-eang filoedd o weithiau’n fwy na charbon deuocsid.
Amcangyfrifir bod 1.4 biliwn o oergelloedd a rhewgelloedd ac 1.6 biliwn o unedau aerdymheru i’w cael yn y byd heddiw. Dyma yw proffwydoliaeth yr Asiantaeth Ymchwiliadau Amgylcheddol (EIA):
‘Wrth i dymheredd y byd godi, mae’r galw am gyfarpar oeri yn cynyddu’n enfawr. Yn bryderus ddigon, rhagwelir y bydd nifer yr unedau aerdymheru domestig yn treblu erbyn 2050.’
Mae allyriadau nwyon-F yn yr UE wedi dyblu fwy neu lai rhwng 1990 a 2014 – yn wahanol i allyriadau nwyon tŷ gwydr eraill, sydd wedi gostwng.
Fodd bynnag, diolch i ddeddfwriaeth yr UE ar nwyon wedi’u fflworeiddio, mae allyriadau nwyon-F wedi bod yn gostwng ers 2015 (data’r EEA).
Mae allyriadau nwyon-F wedi cynyddu’n fawr, yn bennaf oherwydd cynnydd mewn allyriadau o du oergelloedd ac unedau aerdymheru wrth i hydrofflworocarbonau ddisodli sylweddau sy’n teneuo’r osôn a ddefnyddid gynt fel oeryddion. Arafodd y cynnydd hwn mewn blynyddoedd diweddar, ac ers 2015 mae wedi gwrthdroi yn dilyn y gostyngiad graddol a ddigwyddodd fel rhan o Reoliad Nwyon-F yr UE yn 2014.
Yn ôl amcangyfrif Project Drawdown:
‘Yn unol â chytundeb Kigali a lofnodwyd yn 2016, gall defnyddio cymysgedd o gemegau eraill yn hytrach nag oeryddion HFC arwain at ostwng allyriadau – sef gostyngiadau a fydd yn gyfwerth â 43.5-50.5 gigatunnell o garbon deuocsid rhwng 2020-2025.’
cement of HFC refrigerants with a mix of alternatives can result in a range of emissions reductions equivalent to 43.5-50.5 gigatons of carbon dioxide from 2020-2050.’
Nid mater chwerthin mohono!
Mae ocsid nitrus (N₂O) (a elwir hefyd yn nwy chwerthin) yn nwy arall sy’n newid yr hinsawdd, er na sonnir cymaint amdano. Mae’r nwy hwn oddeutu 300 gwaith yn gryfach na CO2 fel nwy cynhesu byd-eang. Hefyd, dyma’r ‘nwy tŷ gwydr hirhoedlog pwysicaf ond dau, ar ôl carbon deuocsid a methan’.
‘Y sector amaethyddol sy’n bennaf gyfrifol am N20: yn 2018, roedd allyriadau o briddoedd amaethyddol yn gyfrifol am 56% o gyfanswm allyriadau’r DU, ac ychwanegodd ffynonellau amaethyddol eraill 13% yn rhagor. Mae ffynonellau pwysig eraill mewn blynyddoedd diweddar yn cynnwys trafnidiaeth ffyrdd, ffynonellau eraill sy’n hylosgi tanwydd a phrosesau gwastraff’.
Gwelwyd lleihad yn y nwy hwn ers 1970, ond mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi rhybuddio bod y gostyngiadau wedi gwastatáu ers 2008.
Mae hyn yn cynnwys amaethyddiaeth, lle mae’r allyriadau wedi aros fwy neu lai yn gyson ers 2008 – er, yn 2016 roedd yr allyriadau 2% yn uwch nag allyriadau 2008. Yn ôl Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, os yw’r Llywodraeth yn awyddus i wneud cynnydd pellach o ran cyrraedd ei Chyllidebau Carbon, bydd angen gostwng mwy ar allyriadau ocsid nitrus, yn cynnwys allyriadau o du amaethyddiaeth. Yn ôl y Pwyllgor, gellir llwyddo i wneud yr olaf trwy gael gwell cysylltiad rhwng cymorth ffermio a lleihau allyriadau trwy fynd i’r afael â meysydd fel rheoli maetholion a gwastraff a thail.
Rydym yn falch, felly, fod egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn gwbl ganolog i gynigion ‘Ffermio Cynaliadwy a’n Tir’ ar gyfer cynorthwyo ffermwyr Cymru ar ôl Brexit. Mae’n hollbwysig inni gynorthwyo ffermwyr, ffermwyr tenant a rheolwyr tir i fod yn gystadleuol, gan leihau’r defnydd a wneir o wrteithiau nitrogen ar yr un pryd.
Yn ôl amcangyfrif Project Drawdown:
‘Trwy ddefnyddio llai o wrteithiau ar gyfanswm o 380-817 miliwn hectar o dir ffermio erbyn 2050 – cynnydd o gymharu â’r 139 miliwn hectar ar hyn o bryd – fe allai’r allyriadau ocsid nitrus y bydden ni’n eu hosgoi fod yn gyfwerth â 2.3-12.1 gigatunnell o garbon deuocsid’
Yn ein hymgais i sicrhau allyriadau ‘sero net’, ni ddylid anghofio am gemegau.