Bwytewch bysgod cynaliadwy
Published: 19 Jan 2022
Mae'r ffilm Seaspiracy wedi helpu i daflu goleuni ar lawer o'r materion sy'n gwynebu moroedd a bywyd morol ledled y byd, o bysgota diwydiannol, hela esgyll siarcod, sgil-ddalfeydd a llygredd plastigion o offer pysgota a deflir, i dreillio gwaelod y môr, gweithred ddinistriol sydd hefyd yn rhyddhau CO2 yn ofnadwy.
Mae George Monbiot a Sylvia Earle yn ddau berson amlwg sydd o blaid gweithredu a newid.
Os ydych yn bryderus, cymerwch funud i ddweud wrth eich archfarchnad neu wrth fanwerthwr arall eich bod am iddynt weithredu ar y mater hwn a dywedwch wrth eich gwleidyddion yr hoffech weld mwy o gefnogaeth i gychod pysgota lleol llai yng Nghymru, sy'n dal pysgod a mathau eraill o fwyd môr gwirioneddol gynaliadwy.