Bwyd – cwyno, gwneud trafferth, lobïo!

Published: 19 Jan 2022

Dywedwch wrth y rhai sy'n gwneud penderfyniadau bod arnoch eisiau mwy o fwyd lleol o ansawdd da ac olew palmwydd cynaliadwy yn eu cynhyrchion, dim gwastraff bwyd, a bwyd nad yw’n gysylltiedig â datgoedwigo.
Picture of someone at a laptop
Llun gan Christin Hume ar Unsplash 

 

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymrua llawer o sefydliadau eraill yn gwthio am newid aruthrol, cyffredinol, o lywodraethau i fusnesau.

Os hoffech weld newid cadarnhaol yn eich ardaloedd, yna’r peth cyntaf a’r peth gorau y gallwch ei wneud bob amser yw cwyno wrth gynhyrchwyr bwyd a diod, busnesau, eich cynghorau lleol, eich Aelodau o’r Senedd a’ch Aelodau Seneddol, gwneud trafferth iddynt a’u lobïo.

Dywedwch wrthynt bod arnoch eisiau mwy o fwyd lleol o ansawdd da ac olew palmwydd cynaliadwy yn eu cynhyrchion, dim gwastraff bwyd, a bwyd nad yw’n gysylltiedig âdatgoedwigo. 

Bydd ein gwleidyddion yn gweithredu os bydd digon ohonom yn cwyno ac yn parhau i gwyno! Nid oes angen i chi aros am ymgyrchoedd sydd wedi'u trefnu i sicrhau y rhoddir clust i’ch llais. Rhowch wybod i’r cwmnïau, y gwleidyddion a’r busnesau yr hyn sydd ar eich meddwl.

Pethau y gallwn eu gwneud

Bwyd

Amdani!

Share this page