Troi at ddefnyddio pensiwn moesegol

Published: 4 Feb 2022

Troi at ddefnyddio darparwr pensiwn mwy moesegol neu blagio eich darparwr presennol i fod yn fwy ‘gwyrdd’ yw’r peth mwyaf pwerus y gallwch ei wneud yn y frwydr yn erbyn yr anhrefn hinsawdd, o ran y ffordd y byddan nhw’n buddsoddi eu harian.

Solar panels

Ydych chi’n gwybod sut y caiff arian eich cronfa bensiwn chi ei fuddsoddi? A yw eich cronfa bensiwn yn buddsoddi eich arian mewn cwmnïau tanwydd ffosil? A yw eich cronfa bensiwn yn helpu i ddwysáu’r anhrefn hinsawdd ynteu a yw hi’n cael ei buddsoddi mewn ffordd fwy moesegol?

Cymerwch gipolwg ar fideo bach dymunol gan ShareAction sy’n mynd ati i esbonio pethau.

Un peth pwerus y gallwch ei wneud ynglŷn â’r anhrefn hinsawdd yw defnyddio cronfeydd a darparwyr moesegol ar gyfer eich buddsoddiadau a’ch pensiynau. 

Mae gan Make My Money Matter wybodaeth ddefnyddiol iawn ynghyd ag adnodd ar-lein sy’n eich galluogi i gysylltu â’ch cwmni pensiwn i fynnu ei fod yn cymryd camau.

Darllenwch yr erthyglau hyn i gael gwybodaeth ddefnyddiol am sut i newid eich cronfeydd. A hefyd, cofiwch annog eich cyfeillion a’ch teulu i feddwl am eu pensiynau a’u buddsoddiadau.

Mae’r Cyfeiriadur Darparwyr Gwyrdd ac Ethical Consumer (paywall) yn lleoedd da i gychwyn.

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Arian

Amdani!

Share this page