Symud eich arian i fanc cynaliadwy

Published: 4 Feb 2022

Peidiwch â bancio ar newid hinsawdd – symudwch eich arian i fanc cynaliadwy.

Picture of 4 bank logos - Triodos, Nationwide, the Co-operative, and Ecology Building Society

 

Fe ŵyr pob un ohonon ni bellach fod yn rhaid inni roi’r gorau i’r anhrefn hinsawdd beryglus, felly pam mae banciau’n dal i ariannu prosiectau tanwydd ffosil o amgylch y byd?

Yn ôl adroddiad gan Sierra Club, Rainforest Action Network ac eraill, mae 60 o fanciau mwyaf y byd wedi buddsoddi mwy na $3.8 triliwn mewn tanwyddau ffosil ers cytundeb hinsawdd Paris yn 2015!

Ydych chi’n gwybod sut hwyl a gaiff eich banc presennol chi yn hyn o beth

Un peth syml y gall pob un ohonon ni ei wneud yn gyflym iawn yw symud ein harian i sefydliadau ariannol sy’n adlewyrchu ein credoau moesegol.

Y dyddiau hyn, mae hi’n haws o lawer inni newid ein cyfrif banc – fe fydd y banc yn trosglwyddo ein harchebion sefydlog i gyd. Cewch ragor o wybodaeth yma

Mae Ethical Consumer yn cymharu llu o wahanol ddarparwyr (paywall), a hefyd cofiwch ddarllen y tair erthygl hyn.

 

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Arian

Amdani!

Share this page