Buddsoddi’n gynaliadwy

Published: 4 Feb 2022

Mae ble a sut y mae banciau’n defnyddio ein harian yn hollbwysig o ran yr anhrefn hinsawdd.

Picture of solar panels

Mae’n llai amlwg, ond cyn bwysiced bob dydd, â hedfan yn anamlach neu fwyta deiet planhigion.

Rhaid inni ystyried i ble mae ein harian yn mynd (o ran cyfrifon banc, cynilion, buddsoddiadau a phensiynau), ac ar gyfer beth y caiff ei ddefnyddio.

Chwiliwch ar-lein am opsiynau buddsoddi moesegol. Mae yna lu ohonyn nhw o gwmpas y dyddiau hyn, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y rhai iawn, a’r rhai sy’n gweddu i chi.

Mae gan Ethical Consumer lond trol o wybodaeth dda, a hefyd mae Good With Money yn lle da i gychwyn.

Efallai hefyd y bydd y podlediad yma gan y BBC yn ddefnyddiol.

Neu beth am ystyried cyfranddaliadau cymunedol? Er enghraifft, efallai fod yna brosiectau ynni adnewyddadwy sy’n cynnig cyfle ichi fuddsoddi ynddyn nhw. Mae’n bosibl y gallai’r math hwn o fuddsoddiad gynnig dewis amgen ichi yn hytrach na’ch bod yn defnyddio buddsoddiadau mwy anghynaliadwy.

 

OwnIt

 

Mae Cyfeillion y Ddaear wedi treialu cyfres o grwpiau – rhyw gyfuniad o glybiau darllen a chlybiau colli pwysau – er mwyn i ferched allu rhannu eu profiadau ariannol mewn lle diogel, a chefnogi’r naill a’r llall i weithredu.

Yn aml, mae gan ferched bot pensiwn llai na dynion ac maen nhw’n llai tebygol o fuddsoddi mewn pethau fel ISAs. A phan maen nhw’n buddsoddi, maen nhw’n fwy tebygol o fuddsoddi ar sail gwerth.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu fod yn rhan o brosiectau yn y dyfodol, cofiwch gysylltu.

 

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Arian

Amdani!

Share this page