Cynllun Aer Glân ar gyfer Cymru - ein hymateb

Published: 10 Dec 2019

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru: 'Mae llygredd aer yn laddwr tawel, felly mae angen Deddf Aer Glan arnom o fewn tymor y Cynulliad yma.'

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn ymateb i Gynllun Aer Glan i Gymru, a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2019), dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

'Rydyn ni’n croesawi’r Cynllun Aer Glan i Gymru, sy’n dangos fod Llywodraeth Cymru o ddifri am wella llygredd aer.

'Mae’n galonogol gweld bod cynigion cynhwysfawr mewn amrywiaeth  o feysydd o deithio i’r economy, er enghraifft monitro’r aer tu allan i’n ysgolion ac ysbytai, cynyddu teithio llesol, a phlanu coed i amsugno aer brwnt.

'Ond mae angen gweithredu ar frys. Gallwn ni ddim aros blynyddoedd i gael deddfwriaeth yn ei le. Mae llygredd aer yn laddwr tawel, felly mae angen Deddf Aer Glan arnom o fewn tymor y Cynulliad yma.

'Anogwn Lywodraeth Cymru i gydweithio gyda phartneriaid er mwyn gweithredu ar frys ar ddeddf i lanhau ein aer a thaclo’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.'

Share this page