Hana yw’r intern Cyfraith a Pholisi ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon.
Mae ganddi ddiddordeb mewn defnyddio gweithrediadau cyfreithiol fel adnodd i gyflawni cyfiawnder hinsawdd ac ymfudwyr, ac yn dymuno dilyn gyrfa yn y gyfraith er mwyn brwydro dros hawliau ymfudwyr, natur a chymunedau eraill sy’n cael eu gwthio i’r cyrion oherwydd yr argyfwng hinsawdd.
Mae Hana wedi cymryd rhan mewn nifer o NGOs fel The Gambia Academy, Women Connect First a Butterfly Reading School.
Astudiodd radd israddedig mewn Amgylchedd a Datblygiad yn LSE a gradd feistr mewn Ymfudo, Symudedd a Datblygiad o SOAS.
Yn ei hamser sbâr, mae Hana’n mwynhau ffotograffiaeth, nofio, mynydda ac yfed te.