Mae penderfyniad Ffordd Liniau’r M4 wedi'i ohirio yn dilyn rali

Published: 5 Dec 2018

Ddoe (4 Rhagfyr 2018) gwrthwynebodd 400 o bobl Ffordd Liniaru’r M4, gan ddangos i arweinwyr gwleidyddol yng Nghymru bod momentwm y gwrthwynebiad yn erbyn y ffordd hon yn dwysáu.

Edrychwch ar luniau o’r rali Na i Ffordd Liniau’r M4


Roedd y Llywodraeth wedi addo pleidlais i Aelodau Cynulliad ar Ffordd Liniaru/Llwybr Du’r M4 yn y Senedd, a all ddigwydd yn y dyfodol agos.

Yn dilyn y rali, penderfynwyd gohirio’r penderfyniad hyd nes bod y Prif Weinidog nesaf yn ei swydd.

Torf o 400
Ymgasglodd y dorf fawr, gydag ystod liwgar o bosteri (gan gynnwys crëyr anferth o bapur!) ar risiau’r Senedd am 12.30pm i glywed gan siaradwyr o sefydliadau amgylcheddol, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr lleol. Y digrifwraig Lorna Pritchard oedd Llywydd y Digwyddiad. 

Ymhlith y siaradwyr roedd Adam Price, Aelod Cynulliad ac Arweinydd Plaid Cymru, Lee Waters, Aelod Cynlluniad ar gyfer Llafur Cymru dros Lanelli, Amelia Womack, Dirprwy Arweinydd Plaid Werdd Cymru a Lloegr ac Ann Picton, preswylydd lleol ac un swydd wedi ymgyrchu’n ddi-flino yn erbyn y ffordd.

Siaradodd cynrychiolwyr o’r pum sefydliad a drefnodd y rali hefyd: Haf Elgar o Gyfeillion y Ddaear Cymru, Ian Rappel o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Annie Smith o RSPB Cymru, Catherine Linstrum o Ymgyrch yn Erbyn Traffordd y Lefelau (CALM) a Robert Hepworth o  Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (CPRW).

 

Gallwch edrych ar y sylw a roddwyd i’r digwyddiad yn y cyfryngau yma: Wales Online; South Wales Argus; BBC Wales News



Yr hyn a ddywedodd y siaradwyr:

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:
“Mewn cyfnod pan fo arweinwyr y byd mewn cynhadledd CU i fynd i’r afael â newid hinsawdd, ac yn fuan ar ôl i’r adroddiad IPCC rybuddio’r byd bod newid hinsawdd yn digwydd ar gyflymder a graddfa ddigynsail, ni allwn gloi ein hunain i ddyfodol llygredig carbon uchel drwy wario holl arian benthyg Cymru a mwy ar y ffordd ddinistriol hon. Mae’r penderfyniad hwn yn symbol o’r dyfodol a ddymunwn i Gymru – mae gennym ddyletswydd i genedlaethau’r dyfodol i ddweud Na i M4 Newydd a buddsoddi mewn dyfodol cynaliadwy”.

Pwysleisiodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Ian Rappel, na ddylid aberthu cynefinoedd gwarchodedig bywyd gwyllt a mynediad pobl at y man gwyrdd godidog ar Wastadoedd Gwent er mwyn cael traffordd newydd:

“Bydd y draffordd M4 newydd arfaethedig yn costio’r Byd ym mhob ystyr, i bobl a bywyd gwyllt – gan ddinistrio Amazon Cymru. Mae’n groes i Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol rhagorol Cymru, ac yn bygwth gadael trethdalwyr â bil o oddeutu £2 biliwn – a’r cwbl er mwyn arbed 10 munud ar gyfartaledd mewn amser teithio.

“Dylai Llywodraeth Cymru waredu eu cynlluniau, ac yn hytrach na gwario cyllid cyhoeddus sydd ei angen ar draffordd newydd, dylent fuddsoddi mewn system drafnidiaeth gyhoeddus fodern, sydd wedi’i hymgorffori’n llawn ac yn addas ar gyfer pobl Cymru.”

Dywedodd Katie-Jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru:
“Mae Gwastadoedd Gwent yn ardal natur sy’n bwysig yn genedlaethol. Mae’r tirlun unigryw hwn wedi rhoi cartref i’r crehyrod cyffredin cyntaf i fridio yng Nghymru ers dros 400 o flynyddoedd, ac mae’n un o ddwy amddiffynfa yn y DU ar gyfer y gardwenynen feinllais. Byddai pedair milltir ar ddeg o draffordd yn dinistrio a thameidio’r ecosystem tir gwlyb bregus hon a pheryglu dyfodol y rhywogaethau hyn yng Nghymru. Rydym angen i’r ACau roi gwybod i Lywodraeth Cymru na fyddent yn cefnogi’r cynllun dinistriol hwn.”

Dywedodd Robert Hepworth, Gweithredwr Cenedlaethol CPRW a Cgyd-Gadeirydd CALM:
“Bydd y draffordd yn ergyd farwol i dirlun rhagorol ac unigryw Gwastadoedd Gwent sydd wedi’i ffurfio dros filoedd o flynyddoedd. Nid yn unig bydd ymyrraeth o draffordd 6 ffordd ond y datblygiadau hefyd a ddaw yn sgil y ffordd osgoi i’r Gwastadoedd. Mae CPRW wedi gofyn yn benodol i Lywodraeth Cymru yn yr Ymchwiliad am warantau i atal datblygiad o’r fath. Ni chawsom unrhyw sicrwydd o gwbl. Mae datblygwyr yn barod i naddu drwy weddill y Gwastadoedd. Rhaid i ni eu harbed unwaith ac am byth.”

Dywedodd Catherine Linstrum, Cyd-Gadeirydd CALM:
“Mae’r wlad gyfan yn cael ei mygu fwyfwy gan geir a dylem fod wedi dysgu erbyn hyn nad yw adeiladu ffyrdd yn mynd â’r ceir ymaith – dim ond cynyddu eu niferoedd. Dro ar ôl tro mae ffyrdd newydd wedi arwain at fwy o draffig yn cael ei annog i’w defnyddio.

“Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru fod yn greadigol a blaengar gyda’i pholisïau trafnidiaeth. Mae dulliau gwybodus, cynaliadwy o fynd i’r afael â thagfeydd traffig – llawer ohonynt wedi’u cyflwyno gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol y Llywodraeth – nid ffordd M4 newydd sy’n ofnadwy o ddrud a niweidiol yn amgylcheddol yw’r ffordd. Cafodd y cynllun ffordd hwn ei ddyfeisio yn y ganrif ddiwethaf ac yn y fan honno y dylai aros. Gallwn wneud yn well na hyn. Rydym yn haeddu gwell na hyn.”

Share this page