Amddiffynnwch gefn gwlad Cymru rhag ymosodiad llywodraeth y DU ar natur

Mae llywodraeth y DU yn cynllunio i ddinistrio’r cyfreithiau sy’n gwarchod ein hiechyd a’n hamgylchedd - gan roi pobl a natur mewn perygl dirfawr.

Mae llywodraeth y DU yn cynllunio i ddinistrio’r cyfreithiau sy’n gwarchod ein hiechyd a’n hamgylchedd - gan roi pobl a natur mewn perygl dirfawr. 

Os bydd ei chynllun newydd yn mynd yn ei flaen, gall cannoedd o gyfreithiau amgylcheddol gael eu rhwygo’r flwyddyn nesaf. O’r rheolau sy’n atal llygredd afonydd i’r rheiny sy’n ein gwarchod rhag plaladdwyr gwenwynig. 

Mae llawer o’r pwerau hyn wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru ac mae hi wedi ymrwymo i beidio â gwanhau’r amddiffyniadau hyn. Ond mae pryder mawr y bydd llywodraeth y DU yn ceisio gorfodi newidiadau ar Gymru - gan danseilio’r amddiffynfeydd hynny ar gyfer pobl a natur, a frwydrwyd mor galed amdanynt. 

Mae llywodraeth y DU yn gwneud ei gorau i sicrhau dadreoli peryglus ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen. Mae angen i’n hymateb fod hyd yn oed yn gryfach. 

Nid yw’n rhy hwyr i atal ymosodiad llywodraeth y DU ar natur. 

ARWYDDWCH A RHANNWCH Y DDEISEB HON

Share this page