Ymunwch â grŵp gweithredu lleol

Gallwch gymryd rhan yng ngwaith un o 20 o grwpiau gwirfoddoli Cyfeillion y Ddaear ledled Cymru a helpu i wneud eich ardal leol, a'r blaned, yn wyrddach a diogelach.
Popl yn y cyfathod
Cyfeillion y Ddaear Rhuthin

Ymunwch â grŵp gweithredu lleol Cyfeillion a Ddaear Cymru

O greu cynefinoedd bywyd gwyllt a gerddi cymunedol, i gadw cymunedau’n ddiogel rhag ffracio a llosgwyr gwastraff, mae grwpiau lleol Cyfeillion y Ddaear wedi bod yn gwneud gwahaniaeth yng Nghymru ers 30 mlynedd. 

Ymunwch â ni, ac efallai y cewch eich synnu gan faint o hwyl y gall fod hefyd - yn sicr, cewch groeso mawr beth bynnag yw eich sgiliau a’ch diddordebau. Byddwch yn cyfarfod ag arbenigwyr a selogion, a digon o bobl gyffredin, yn gwneud eu rhan ar bopeth o newid yn yr hinsawdd ac ynni glanach, i fwyd mwy diogel a byd naturiol iachach.

Trwy ymuno â rhwydwaith fwyaf y byd o ymgyrchwyr gwyrdd, byddwch yn teimlo, trwy weithio gyda’n gilydd, y gallwn wneud newid parhaol gwirioneddol.

Dod o hyd i'ch grwp agosaf

 

 

Pobl mewn cae
Gweithredu Hinsawdd Caerffili

 

Dechreuwch grŵp lleol eich hyn!

Methu dod o hyd grŵp yn eich ardal chi? Yna gadewch i ni newid hynny ! Beth am sefydlu eich grŵp eich hun ac ysbrydoli eraill yn eich ardal i ymuno!

Dydych chi byth ar ben eich hun, gan y byddwn yn eich helpu i gael ar eich traed a'ch helpu i ddechrau eich grwp eich hun. Cyn i chi ei wybod, byddwch yn brysur yn ymgyrchu a gwneud newidiadau er gwell yn eich ardal.

Cysylltwch a Julian Rosser neu Elsa Pullman am fwy o wybodaeth, cymorth a chyngor.

Planting in Caerphilly

Sut y bu i Gaerffili elwa ar Goedwig Fach

 

Mae Lynn Gazal, mam llawn amser ac ymgyrchydd amgylcheddol a Terry Gordon, peiriannydd Geodechnegol wedi ymddeol, yn adrodd yr hanes sut y daeth grŵp cymunedol â Choedwig Fach i'w parc lleol yn ystod Pandemig Covid-19 a rhai pethau a ddysgont ar hyd y ffordd.

Mwy o wybodaeth

Tree planting in Caerphilly

Ymgyrchwyr Ifanc o Gymru yn gwrthod gwobr

 

Mae Cyfeillion y Ddaear Ifanc Pontypridd wedi gwrthod gwobr gan y cyngor am iddynt beidio gwneud digon i ddelio â newid yn yr hinsawdd.

Mwy o wybodaeth

Torfaen Friends of the Earth protesting against the use of glycosate.

Friends of the Earth groups win award

Torfaen and Ruthin won People’s Postcode Lottery Earthmovers Award for environmental activism.

Find out more

 

Share this page