Sut i gael sylw yn y wasg

Published: 18 Feb 2021

Mae cyfryngau fel gorsafoedd radio lleol, y teledu a phapurau newydd yn gallu bod yn arfau anhygoel o bwerus i helpu i ledu’r gair ynglŷn ag amcanion a llwyddiannau eich ymgyrch, a hyd yn oed i ddylanwadu ar ymgeiswyr etholiad a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Dysgwch sut i ddefnyddio’r cyfryngau i hyrwyddo ymgyrchoedd mewn cysylltiad ag etholiadau sydd ar y gorwel, delio a cheisiadau gan newyddiadurwyr, a dod yn llefarydd effeithiol.

 

Lledu’r stori 

Mae ffynonellau newyddion lleol wastad yn chwilio am straeon am y pethau sy’n bwysig i bobl yn eu hardal nhw, felly os ydy rhywbeth i’w weld yn ddiddorol i chi, mae’n ddigon posib y bydden nhw’n ei weld yn ddiddorol hefyd. 

Os ydych chi’n cysylltu â’r cyfryngau lleol mewn perthynas ag etholiadau sydd ar y gorwel, cofiwch ddarllen ein canllawiau i aros yn wleidyddol amhleidiol.

 

Siaradwch â chysylltiadau yn y cyfryngau lleol 

Mae timau newyddion lleol yn tueddu i fod yn rhai bach, a bydd y newyddiadurwyr yn gweithio ar ystod eang o feysydd gwahanol. Edrychwch trwy dudalennau eich papur lleol, a dewch o hyd i enwau gohebwyr sydd wedi adrodd ar feysydd tebyg o’r blaen. Gallwch ffonio’r desgiau newyddion i ofyn am eu rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost. Mae’n syniad da llunio rhestr o rifau ffôn a chyfeiriadau e-bost newyddiadurwyr ynghyd â ble maen nhw’n gweithio, a byddwch chi’n gallu defnyddio’r manylion os oes gennych stori i’w rhannu. 

Os ydych chi’n meddwl bod gennych stori i’w rhannu ond nad ydych chi’n siŵr a fydd yn haeddu sylw fel newyddion, y peth gorau i’w wneud ydy anfon e-bost i’w chynnig i newyddiadurwr cyfeillgar a gweld beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud. Mae hyn yn ffordd arbennig o dda o rannu straeon bach sydd o ddiddordeb lleol, gan gynnwys pethau fel bod eich grŵp wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, neu wedi lansio ymgyrch newydd.

 

Anfonwch ddatganiad i'r wasg 

Ar adegau, bydd hi’n werth anfon datganiad i’r wasg i’ch holl gysylltiadau yn y cyfryngau lleol. Datganiad ysgrifenedig y byddwch chi’n ei anfon i newyddiadurwyr ydy datganiad i’r wasg, gyda gwybodaeth newydd a dyfyniad gan eich llefarydd ynddo. Mae’r gohebydd yn ei ddefnyddio wedyn wrth ysgrifennu stori newyddion. Mae modd eu defnyddio i gyhoeddi buddugoliaeth neu ddatblygiad mewn ymgyrch, i rannu newyddion am ddigwyddiad cyhoeddus, neu weithiau i ymateb i rywbeth sydd newydd ddigwydd yn allanol. 

Os byddwch chi’n anfon datganiad i'r wasg, byddwch yn barod i gael newyddiadurwyr yn eich ffonio i ofyn am gyfweliadau neu ragor o wybodaeth – cymerwch olwg ar ein cynghorion ar baratoi ar gyfer cyfweliad. 

Lawrlwythwch dempled datganiad i’r wasg ar gyfer cyhoeddiad mewn ymgyrch, digwyddiad neu ymateb, ynghyd â chynghorion ar sut i’w ysgrifennu. 

 

Allai hi fod yn stori genedlaethol? 

Os ydych chi’n meddwl y gallai’ch stori fod yn berthnasol i bobl ledled y Deyrnas Unedig neu gael effaith ar lawer o bobl, cysylltwch â thîm cyfryngau Cyfeillion y Ddaear. Efallai y gallwn ni helpu i gael sylw i’r stori yn genedlaethol, cynorthwyo gyda hyfforddi llefarydd neu eich cynghori ynglŷn â beth i’w wneud nesaf. 

E-bostiwch y tîm ar [email protected], neu ffoniwch 020 7566 1649 yn ystod oriau swyddfa, neu 07718 394 786 y tu allan i oriau. 

 

Ysgrifennwch lythyr at y golygydd 

Os gwelwch chi stori mewn papur newydd a meddwl y gallech chi ychwanegu’ch llais ati, meddyliwch am ysgrifennu llythyr at y golygydd. Mae’r tudalennau llythyrau ymhlith y tudalennau a ddarllenir fwyaf mewn papurau lleol, felly mae’n ffordd wych o gyrraedd cynulleidfa eang. 

Ceisiwch anfon eich ymateb naill ai ar yr un diwrnod ag y cyhoeddwyd yr erthygl rydych chi’n ymateb iddi neu ar y diwrnod canlynol, gan sicrhau eich bod yn cyfeirio’n amlwg at yr erthygl. Cadwch eich llythyr yn gryno a phwrpasol – mae unrhyw beth dros 200 gair yn llai tebygol o gael ei gyhoeddi – a cheisiwch gyflwyno ongl neu syniad newydd i’r ddadl. Os gallwch chi wneud hynny gyda rhywfaint o hiwmor hefyd, yna bydd y golygyddion yn ddiolchgar! 

Rhowch eich enw llawn, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn bob tro y byddwch yn cyflwyno ymateb. Ni fyddant yn cael eu cyhoeddi, ond gallai’r papur eich galw i gadarnhau rhywfaint o’r manylion gyda chi. 

Darllenwch lythyrau enghreifftiol a thempled e-bost ar gyfer cyflwyno’ch llythyr i’r golygydd.

 

Cyflwyno sylwadau i’r cyfryngau 

Ambell waith, bydd newyddiadurwr yn cysylltu â chi i ofyn am sylw gennych ynglŷn â stori newyddion sy’n torri, a gall hynny fod yn gyfle ardderchog i gyfleu eich neges. Mae’n werth cofio bod newyddiadurwyr yn tueddu i weithio i derfynau amser tyn iawn, felly bydd mynd yn ôl atyn nhw’n gyflym i gadarnhau eich bod wedi derbyn y neges a gofyn erbyn pryd maen nhw eisiau eich sylw yn helpu i ddatblygu’r berthynas. 

Dyma rai o’n prif gynghorion ar gyfer ysgrifennu sylw i’r wasg: 

  1. Cadwch y sylw’n fyr ac yn fachog. Anaml y bydd newyddiadurwyr yn defnyddio mwy nag un neu ddwy o frawddegau yn eu herthyglau, ac yn aml gall gael ei gyfyngu i ambell air, felly ceisiwch gyfleu eich neges mewn modd sydd mor gryno â phosib. 

  1. Defnyddiwch iaith lafar. Eglurwch eich pwynt mewn termau y byddech yn eu defnyddio gyda ffrind. 

  1. Sicrhewch fod gennych safbwynt amlwg ac unigryw. Does dim rhaid i chi ddefnyddio gormodiaith, ond dylai fod gennych farn amlwg ar beth mae hyn yn ei olygu i’r amgylchedd neu i’ch ymgyrch. 

  1. Dywedwch beth ddylai ddigwydd nesaf. Os yw’n berthnasol, y sylw hwn ydy eich cyfle i hyrwyddo gofynion eich ymgyrch trwy ddweud beth ddylai ddigwydd nesaf er mwyn gwella’r sefyllfa. 

Pwysig: mae’n llawer gwell dweud “na” os nad ydy’r cais yn berthnasol, os nad yw’n rhywbeth rydych chi’n gwybod llawer amdano, neu os nad yw’n rhywbeth fydd yn dangos eich ymgyrch mewn goleuni da.

 

Paratoi ar gyfer cyfweliad 

O dro i dro, mae’n bosib y cewch gais am gyfweliad. Gallai hyn swnio’n arswydus, ond gydag ychydig o baratoi, does dim angen poeni am y peth, ac mae’n gyfle gwych i gyfleu neges eich ymgyrch. 

Er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi ar gyfer cyfweliad gennych chi, dyma ambell gwestiwn defnyddiol i’w gofyn i’r gohebydd neu’r cynhyrchydd ymlaen llaw: 

  • A fydd yn cael ei ddarlledu’n fyw neu ei recordio ymlaen llaw? 

  • Ble mae angen i’r llefarydd fod, a phryd? Pa mor hir fydd y cyfweliad? 

  • Pwy ydy’r cyflwynydd? 

  • Beth ydy’r trywydd holi cyffredinol, ac a allwch chi ei anfon ataf ymlaen llaw? 

  • A oes gwesteion eraill? Os oes, pwy? Pa safbwynt mae disgwyl i’r gwesteion eraill ei gymryd? 

  • A fydd pobl yn galw i mewn gyda chwestiynau? 

  • Pwy ydy’r cyswllt gorau ar y dydd rhag ofn y bydd unrhyw broblemau? 

 

Negeseuon allweddol 

Unwaith y byddwch wedi cael yr holl wybodaeth rydych chi ei hangen ynglŷn â’r cyfweliad, gallwch chi baratoi eich negeseuon allweddol. 

Eich negeseuon allweddol ydy’r tri phrif bwynt rydych chi eisiau eu cyfleu mewn cyfweliad er mwyn cysylltu â’ch cynulleidfa, trosglwyddo gwybodaeth iddynt a hyrwyddo eich datrysiad. Ceisiwch gyfeirio at enghreifftiau ar gyfer eich ymgyrch sy’n cyflawni’r tri pheth yma: 

 

1. Dangos gwerthoedd sy’n gyffredin i chi a’ch cynulleidfa 

Os ydych chi’n ceisio argyhoeddi pobl newydd ynglŷn â’ch safbwynt, mae wastad yn syniad da dechrau’ch brawddeg gyda datganiad sy’n creu pont at eich cynulleidfa, e.e. “Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod...” neu “mae... ..yn bwysig eithriadol i ni i gyd” neu “mae gan bawb hawl i...” 

Er enghraifft, mewn cyfweliad ynglŷn â chynyddu arwynebedd coed yn eich ardal, gallech chi ddechrau trwy ddweud: “Bydden ni i gyd yn cytuno bod byw mewn ardal sydd â choed gerllaw yn helpu pobl i deimlo’n hapusach ac mewn cysylltiad agosach â byd natur.” 

 

2. Amlinellwch yn eglur beth ydy’r broblem a pha effaith mae’r broblem hon yn ei chael ar bobl. 

Er enghraifft: “Ar hyn o bryd, mae cyfradd yr arwynebedd coed yn y sir hon ymhlith yr isaf yn y wlad, sy’n golygu bod pobl yn methu cael cyswllt â byd natur ac mae’n effeithio ar ansawdd eu bywyd.” 

 

3. Cyflwynwch ateb 

Mae hyn yn bwysig. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod negeseuon nad ydynt yn cynnwys atebion yn peri i’r gynulleidfa ddigalonni ynglŷn â’r posibilrwydd o gael newid, a gallai hyn eu dieithrio rhag eich cefnogi chi. Rydym yn argymell hefyd y dylech ‘bwysleisio cynllunio’ pryd bynnag y bo hynny’n bosib – mae hynny’n golygu egluro bod y sefyllfa sydd ohoni wedi’i chreu gan rywun am reswm, ac y gellir ei hail-gynllunio i fod yn well.

Enghraifft: “Does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Pan fydd y cyngor yn buddsoddi mewn plannu coed, ac yn cynorthwyo grwpiau cymunedol i ddiogelu mannau gwyrdd lleol, mae pawb yn well eu byd. I ddechrau, dylai’r cyngor osod targed i gynyddu arwynebedd coed a gweithio gyda’r gymuned i gael natur yn ôl yn ein hardaloedd trefol.” 

 

Pum pwynt i’w cofio 

1. Yr ymadrodd aur 

Meddyliwch am un ymadrodd gwych ymlaen llaw sy’n cyfleu’r un peth yr hoffech i bobl ei gofio o’ch cyfweliad gan ddefnyddio trosiadau neu iaith blaen, yna ceisiwch ei gynnwys gymaint o weithiau ag y gallwch. O wneud hynny, fyddwch chi ddim yn ymbalfalu am eiriau, ac mae’n rhoi un neges gofiadwy i’r gynulleidfa ei derbyn. 

2. Rhifau ac ystadegau 

Nid yw gwrandawyr yn tueddu i dderbyn llif o rifau ac ystadegau yn dda iawn, felly os ydych chi am ddefnyddio rhai, cyfyngwch eich hun i un neu ddau o ffigurau pennawd mawr. 

Gallwch chi wneud eich rhifau yn fwy perthnasol i bobl trwy ddefnyddio ffracsiynau yn hytrach na chanrannau, e.e. un o bob deg o bobl yn hytrach na 10%, neu ddisgrifio arwynebeddau trwy eu cymharu â llefydd yn hytrach na defnyddio cilometrau sgwâr, e.e. arwynebedd maint Cymru. 

Mae’n bwysig iawn eich bod yn sicr bod eich rhifau’n gywir cyn eu defnyddio mewn cyfweliad. 

3. Adroddwch straeon 

Mae straeon yn ffordd wych o gyfleu eich neges a chysylltu gyda chynulleidfaoedd. Gallai hynny fod yn stori am rywbeth sydd wedi digwydd i chi, i rywun rydych chi’n ei nabod, neu’n stori fwy cyffredinol sy’n rhoi darlun byw. Ond cofiwch beidio â rhannu straeon personol oni bai eich bod yn hapus iddynt fod yn destun trafodaeth gyhoeddus. 

4. Paratowch ar gyfer cwestiynau anodd 

Treuliwch ychydig funudau yn meddwl am y cwestiynau na fyddech chi eisiau iddynt gael eu gofyn. Gallai hynny fod ar elfennau o’ch ymgyrch sy’n cael eu camddeall neu eu cwestiynu’n aml, neu ar elfennau o wrthwynebiad. Meddyliwch sut byddech chi’n ymateb ac ystyriwch y dechneg isod fel modd o helpu i ddod â’r sgwrs yn ôl at yr hyn rydych chi eisiau ei drafod. 

5. Anadlwch, a gwenwch! 

Cofiwch eich bod wedi cael eich gwahodd i siarad am y pwnc hwn oherwydd bod gennych rywbeth defnyddiol neu ddiddorol i’w ychwanegu at y ddadl. Ychydig iawn o wybodaeth am y testun fydd gan y rhan fwyaf o gyfwelwyr cyn dechrau, felly cymerwch funud i anadlu, gwenu, a mwynhau’r cyfle i roi gwybodaeth i bobl am rywbeth sy’n bwysig i chi. 

 

Delio â chwestiynau anodd 

Os bydd y cyflwynydd yn gofyn cwestiwn lletchwith neu un sy’n mynd oddi ar y trywydd, dilynwch y rheol syml hon i’w gysylltu â’ch negeseuon allweddol: cydnabod, pontio, cau. 

Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n gofyn: “Mewn cyfnod pan mae cyllidebau cynghorau mor brin, pam dylai cynghorau fod yn gwario arian seilwaith ar lonydd seiclo?” 

Cydnabyddwch y pryder: “’Ry’n ni i gyd yn gwybod bod cynghorau o dan bwysau ariannol mawr.” 

Pontiwch i’ch neges allweddol: “Ond bydd pob ceiniog gaiff ei gwario nawr i leihau effeithiau newid hinsawdd yn arbed llawer iawn mwy o arian yn nes ymlaen.” 

Caewch gyda’ch neges allweddol: “Mae lonydd seiclo yn ffordd hynod bwysig ac effeithiol o gael pobl allan o’u ceir ac i mewn i ddulliau llesol o deithio, gan leihau eu hôl troed carbon a helpu pobl i fyw bywydau mwy gwyrdd ac iachus.” 

 

Sylw yn y cyfryngau ar gyfer etholiadau mis Mai 2021 

Mae siarad â’r cyfryngau lleol yn ffordd dda o drosglwyddo’r neges ynglŷn â’ch ymgyrch etholiadol. Mae hystings yn “fachyn” da ar gyfer denu sylw’r cyfryngau, felly cofiwch wahodd y wasg leol. 

Cysylltwch â [email protected] os ydych chi eisiau derbyn templed datganiad i’r wasg i’w ddefnyddio yn ystod etholiadau yn eich ardal chi trwy e-bost. 

Share this page