Aer iach

Mae tystiolaeth i brofi bod llygredd aer yn gallu achosi canser, a gwaethygu clefyd y galon a’r ysgyfaint. Rydym angen glanhau ein haer nawr – er lles ein hiechyd a’n planed.

Fel y dengys y data diweddaraf gan Sefydliad Iechyd y Byd, mae llygredd aer yn beryglus o uchel mewn dinasoedd a threfi ledled Cymru.

 

Mae Caerdydd, Cas-gwent, Casnewydd, Port Talbot ac Abertawe ymhlith y dinasoedd a’r trefi hynny nad ydynt yn cyrraedd safonau Sefydliad Iechyd y Byd o ran llygredd aer gronynnau mân.

 

Yn ôl ymchwil, gall llygredd aer o ronynnau mân achosi canser yr ysgyfaint, a gwaethygu clefyd y galon a’r ysgyfaint.

 

Mae’n rhaid inni lanhau ein haer NAWR – er lles ein hiechyd a’n planed.

 

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn aelod o Gynghrair Awyr Iach Cymru, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i’r afael â llygredd aer.

 

Gofynion Polisi Awyr Iach Cymru i Lywodraeth Cymru

1. Strategaeth ansawdd aer gyfansawdd, ar draws y Llywodraeth, sy’n cynnwys:

a. Darpariaeth ar gyfer Rhwydwaith Monitro ac Asesu Annibynnol;
b. Bwrdd Ymgynghorol Cenedlaethol ar Ansawdd Aer, a gadeirir gan Weinidog yr Amgylchedd, sy’n cynnwys arbenigwyr, academyddion a chynrychiolwyr o gyrff anllywodraethol, awdurdodau lleol a sectorau sy’n llygru’n fawr (fel trafnidiaeth ac egni);  
c. Ardal Aer Glân sy’n codi tâl i Gaerdydd, efo gorfodaeth ar Gynghorau Abertawe a Chasnewydd i gynnal astudiaethau dichonoldeb ar gyflwyno ardal aer glân sy’n codi tâl yn eu hardaloedd;

ch. Adolygu prosesau adrodd fel bod gofyn i bob awdurdod lleol (ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd Lleol/Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus) baratoi Cynllun Aer Glân, ar sail data gan y Rhwydwaith Monitro ac Asesu Annibynnol, gyda mesurau rheoli digonol wedi’u hadnabod a’u gweithredu;   

d. Ymrwymiad y bydd Cynlluniau Datblygu Strategol, Cynlluniau Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ac awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol, yn rhoi ystyriaeth i ansawdd aer;

dd. Gofyniad i bob awdurdod lleol ddatblygu strategaeth Cerdded a Beicio efo targedau i leihau canran y teithiau mewn car preifat;

e. Cronfa Aer Glân sy’n targedu cyllid i’r Awdurdodau Lleol hynny sydd â lefelau llygredd aer sy’n gyson uchel neu ormodol. Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i opsiynau i ran-gyllido’r Gronfa hon drwy fesurau fel codi tâl ar draffig, a Modelau Buddsoddi Cydfuddiannol.

 

2. Rhoi cyllid i gynghorau roi hwb i fonitro llygredd tu allan i ysgolion a chanolfannau iechyd/ysbytai, fel bod gan y cyhoedd yr wybodaeth angenrheidiol i amddiffyn eu hiechyd.

 

3. Gwella trefn monitro llygredd, ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a rhybuddion iechyd i’r cyhoedd, fel bod pobl sy’n byw ym mhob rhan o Gymru yn ymwybodol o lefelau llygredd yn lleol, a sut i leihau’r effaith ar eu hiechyd.

 

4. Deddf Aer Glân i Gymru a fyddai’n:

a. Corffori canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar ansawdd aer;
b. Gorchymyn Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth ansawdd aer statudol, pob pum mlynedd;
c. Rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol, a gweithredu yn ei erbyn;

ch. Cyflwyno ‘hawl i anadlu’ ble mae’n ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybod i grwpiau bregus pan fydd lefelau neilltuol yn cael eu torri.

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru,

 

“Mae Cymru angen Cynllun Aer Glân clir a chynhwysfawr ac a gefnogir yn ariannol, gan gynnwys Parthau Aer Glân effeithiol er mwyn diogelu pobl rhag llygredd o gerbydau yn ein trefi a’n dinasoedd llygredig. Mae’n rhaid sicrhau system fonitro ansawdd aer gwell yng Nghymru, isadeiledd sy’n galluogi teithio llesol gyda llwybrau cerdded a beicio diogel.

 

Edrychwn ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru, y Cynulliad ac arbenigwyr eraill i ddatblygu’r cynigion hyn fel mater o frys.”

 

Yn awyddus i wybod beth yw ansawdd yr aer yn eich ardal? Archebwch becyn aer glân gan Gyfeillion y Ddaear.

 

Rhanwch yr tudalen hwn

Tumblr Facebook Twitter Email Addthis
Eisiau sicrhau newidCymrwch Rhan neu Rhoddwch i ni