Gweithredwch i lanhau aer peryglus Cymru

Published: 20 Jul 2023

Mae angen i ni sicrhau bod ddeddfwriaeth yn mynd yn ei flaen, a’i bod cyn gryfed â phosib. Ydych chi’n fodlon dangos i’r Senedd eich bod eisiau deddf gref er mwyn glanhau ein haer?

Woman with two children holding posters


 

Ychwanegwch eich enw

Dewch i ni wneud Cymru yn lle y gallwn gerdded ar hyd y stryd yn ddiogel heb anadlu aer peryglus.  

Mae aer llygredig yn ddrwg i’n hiechyd yn ogystal â’r blaned - mae’n cyfrannu at farwolaethau oddeutu 2,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru.  

A’r bobl sy’n cyfrannu lleiaf at achos llygredd aer – teuluoedd ar incwm isel, y rhai heb geir, pobl o liw, plant gydag ysgyfaint bregus – sy’n dioddef fwyaf.  

Mae Bil yr Amgylchedd sy’n cael ei ystyried gan Senedd Cymru eleni yn addo gwella ansawdd yr aer.  

Rydym yn galw ar y Senedd i basio bil sy’n ddigon cryf i bawb allu anadlu’n ddiogel. 

Dangoswch i’r Senedd eich bod eisiau aer glân yng Nghymru. 

Gweithredwch heddiw

 

Share this page