Cynghorau Cymru yn arwain yr ymgyrch i symud i ffwrdd o fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil

Published: 23 Oct 2023

Yn ôl dadansoddiad newydd gan Platform a Chyfeillion y Ddaear, mae cynghorau yng Nghymru yn perfformio’n well na’u cyfatebwyr yn Lloegr, yng nghyd-destun tynnu cronfeydd pensiynau allan o fuddsoddiadau tanwyddau ffosil.
Wind turbines
Tyrbinau Gwynt Tythegston, ger Porthcawl ym Mro Morgannwg (llun trwy garedigrwydd Steve Barnes CC BY-SA 2.0)

 

Mae’r ffigyrau diweddaraf hyn yn dangos bod tua 2% o gronfeydd pensiynau’r cyngor yng Nghymru yn cael eu buddsoddi mewn tanwyddau ffosil, o’i gymharu â 4% yn Lloegr. Yn wir, ledled y DU, roedd y ddwy gronfa gyda'r cyfrannau lleiaf o’u buddsoddiadau mewn tanwyddau ffosil (Caerdydd a’r Fro a Dinas a Sir Abertawe) yn dod o Gymru.

Yn Llundain hefyd, lle mae arweinyddiaeth leol wedi gweithredu’n barhaus ar waredu tanwyddau ffosil, mae buddsoddiad o’r fath gan gronfeydd pensiwn llywodraeth leol yn cyfateb i tua hanner y cyfartaledd ar gyfer Lloegr.

Mae’r ymchwil, a gyhoeddwyd ddydd Llun 23 Hydref, a gynhaliwyd drwy geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, yn datgelu, ledled Cymru, bod £16 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn y diwydiant tanwyddau ffosil drwy gyllid cronfeydd pensiwn llywodraeth leol, gan gynnwys dros £8 biliwn sy’n ariannu archwiliadau olew a nwy newydd.

Mae hyn yn codi pryderon neilltuol, oherwydd yn 2021, nododd Fatih Birol, cyfarwyddwr gweithredol yr International Energy Agency ac un o economyddion ynni mwyaf blaenllaw y byd, “Os yw llywodraethau o ddifrif am yr argyfwng hinsawdd, ni ellir buddsoddi o’r newydd mwyach mewn olew, nwy a glo o hyn ymlaen - o eleni ymlaen.”

Dwy flynedd yn ddiweddarach, rydym yn parhau i weld cronfeydd pensiynau yn buddsoddi ffigwr syfrdanol o £8 biliwn i ariannu archwiliadau olew a nwy newydd.

Gwelwch y dystiolaeth yma

 

Yng Nghymru, rydym yn sicr wedi gweld datblygiad addawol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rhwng 2017 a 2022 fe wnaeth yr 8 cronfa bensiwn awdurdodau lleol Cymru (LAPFs) ollwng eu gafael mewn tua hanner y cwmnïau tanwydd ffosil, o tua £1bn i tua £500miliwn. Maen nhw wedi dechrau symud tameidiau o'u potiau pensiwn i gronfeydd carbon isel hefyd.

Yma yng Nghymru, rydym wedi gweld ymgysylltiad cadarnhaol â'r mater hwn gan Lywodraeth Cymru, Aelodau Senedd a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Ym mis Mai 2022, er enghraifft, cefnogodd Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau o’r Senedd gynnig a gyflwynwyd gan Jack Sargeant AS, yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi bod yn gweithio gyda grwpiau a gweithredwyr lleol dros yr 8 mlynedd ddiwethaf i roi pwysau ar gynghorau a gwleidyddion i gefnogi ein galwad i gronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus roi’r gorau i fuddsoddi mewn cwmnïau tanwyddau ffosil..

 

Beth nesaf?

Yn eithaf amlwg, mae gan rai cronfeydd pensiynau yng Nghymru waith i’w wneud o hyd i gyrraedd yr un lle â chronfeydd pensiynau Caerdydd ac Abertawe ac mae’r ffigyrau diweddaraf hyn yn dangos bod gwaith datblygu i’w wneud o hyd.

Mae cyfle gwirioneddol nawr yma yng Nghymru i’r sector cyhoeddus oll gydweithio ar y mater hwn, i benderfynu eu bod yn dymuno datgarboneiddio eu cronfeydd pensiwn, a gwneud hynny erbyn 2030. Byddai hyn yn adlewyrchu'r llinell amser y maent eisoes wedi cytuno arni i gyrraedd ‘sero net’ ar draws eu gweithrediadau eu hunain.

Byddai hon yn broses a’r gobaith yw y byddem yn gweld strategaeth baralel ar waith i bwysleisio cyfleoedd ar gyfer cronfeydd pensiwn yng Nghymru i’w buddsoddi mewn prosiectau cadarnhaol yng Nghymru, gan greu a chynnal swyddi yng Nghymru a chefnogi cymunedau ledled y wlad wrth warantu cyfradd debyg o elw ar fuddsoddiadau er budd deiliaid cronfeydd pensiwn.

Gobeithiwn y bydd datblygiad cadarnhaol ar y mater hwn yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

Share this page