Trafnidiaeth - pethau y gallwn eu gwneud Published: 20 Apr 2022 Trafnidiaeth - cwyno, gwneud trafferth, lobïo! Dywedwch wrth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau eich bod eisiau opsiynau teithio llesol gwell, trafnidiaeth gyhoeddus fwy fforddiadwy ac aer glanach. Rhowch y gorau i ddefnyddio eich car neu ei ddefnyddio’n llai aml Rydyn ni’n gwybod bod tua 12% o allyriadau CO2 yr UE yn dod o geir a'i bod yn costio £3,500 y flwyddyn ar gyfartaledd i redeg car. Mae hynny’n lawer o arian! Ewch ar eich beic, ar droed neu ar eich sgwter Fasech chi’n gallu cyrraedd eich gweithle ar gefn beic? Ystyriwch ddefnyddio e-feic Maen nhw’n dod â llawer o fanteision, mae’n debyg nad y lleiaf ymhlith y rhai i ni yng Nghymru yw ei gwneud hi’n haws beicio i fyny bryniau heb fynd yn lanast chwyslyd iawn! Beth am feic cargo? A fyddai eich amgylchiadau chi yn gweddu beic cargo? Beicio hygyrch Menter wych yng Nghaerdydd, wedi’i sefydlu er mwyn sicrhau bod beicio yn hygyrch ac yn hwyl i bobl o bob oed a gallu, ydy Pedal Power. Sefydlwch fws cerdded Un ffordd o gael plant i fod yn fwy actif a chwtogi'r nifer o deithiau car a lleihau’r llygredd aer sy’n gysylltiedig â’r teithiau yw sefydlu bws cerdded. Ymunwch â chlwb ceir Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor ddrud yw ceir i’w cynnal: talu am wasanaeth i’r car, ei gynnal, yr yswiriant, y dreth, y petrol ac atgyweiriadau parhaus. Rhannu ceir Mae’n ymddangos ein bod ni Brydeinwyr yn anfodlon rhannu ceir wrth deithio i’r gwaith. Cerbydau trydan (EVs) Mae’r farchnad ceir trydan yn ffynnu trwy’r amser ac ers Hydref 2021, mae yna oddeutu 345,000 ar ffyrdd y DU. Trafnidiaeth gyhoeddus Yn dibynnu ar eich amgylchiadau chi a lle rydych chi’n byw, efallai eich bod chi eisoes yn defnyddio gwasanaethau Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru. Osgoi SUVs Mae Cerbydau Cyfleustodau Chwaraeon, neu Dractorau Chelsea, wedi achosi pryder ers blynyddoedd lawer bellach, ac mae’n rhwystredig tu hwnt ein bod ni angen siarad am y rhain o hyd. Prynwch yn lleol Pam ydyn ni wedi cynnwys hyn yn yr adran hon am drafnidiaeth? Hedfan yn llai aml Mae hedfan yn gyfrifol am oddeutu 2% o allyriadau hinsawdd y DU. Gwyliwch y fideo hwn Mae’r fideo hwn gan Cycling UK yn hyrwyddo’r Rhwydwaith Beicio cynhwysol, y rhwydwaith fwyaf o ganolfannau beicio sy’n rhoi’r cyfle i filoedd o bobl gael profiad o feicio, a sawl un am y tro cyntaf. Trafnidiaeth Mae trafnidiaeth yng Nghymru yn gyfrifol am 17% o gyfanswm ein hallyriadau carbon yn flynyddol a thrafnidiaeth yw’r trydydd sector gwaethaf o ran allyrru nwyon tŷ gwydr. Amdani! Cliciwch ar bob un o'r gwahanol feysydd i ddarganfod pa gamau y gallwch eu cymryd i wneud eich bywyd a'ch cymuned yn fwy cyfeillgar i'r hinsawdd.
Trafnidiaeth - cwyno, gwneud trafferth, lobïo! Dywedwch wrth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau eich bod eisiau opsiynau teithio llesol gwell, trafnidiaeth gyhoeddus fwy fforddiadwy ac aer glanach.
Rhowch y gorau i ddefnyddio eich car neu ei ddefnyddio’n llai aml Rydyn ni’n gwybod bod tua 12% o allyriadau CO2 yr UE yn dod o geir a'i bod yn costio £3,500 y flwyddyn ar gyfartaledd i redeg car. Mae hynny’n lawer o arian!
Ewch ar eich beic, ar droed neu ar eich sgwter Fasech chi’n gallu cyrraedd eich gweithle ar gefn beic?
Ystyriwch ddefnyddio e-feic Maen nhw’n dod â llawer o fanteision, mae’n debyg nad y lleiaf ymhlith y rhai i ni yng Nghymru yw ei gwneud hi’n haws beicio i fyny bryniau heb fynd yn lanast chwyslyd iawn!
Beicio hygyrch Menter wych yng Nghaerdydd, wedi’i sefydlu er mwyn sicrhau bod beicio yn hygyrch ac yn hwyl i bobl o bob oed a gallu, ydy Pedal Power.
Sefydlwch fws cerdded Un ffordd o gael plant i fod yn fwy actif a chwtogi'r nifer o deithiau car a lleihau’r llygredd aer sy’n gysylltiedig â’r teithiau yw sefydlu bws cerdded.
Ymunwch â chlwb ceir Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor ddrud yw ceir i’w cynnal: talu am wasanaeth i’r car, ei gynnal, yr yswiriant, y dreth, y petrol ac atgyweiriadau parhaus.
Cerbydau trydan (EVs) Mae’r farchnad ceir trydan yn ffynnu trwy’r amser ac ers Hydref 2021, mae yna oddeutu 345,000 ar ffyrdd y DU.
Trafnidiaeth gyhoeddus Yn dibynnu ar eich amgylchiadau chi a lle rydych chi’n byw, efallai eich bod chi eisoes yn defnyddio gwasanaethau Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru.
Osgoi SUVs Mae Cerbydau Cyfleustodau Chwaraeon, neu Dractorau Chelsea, wedi achosi pryder ers blynyddoedd lawer bellach, ac mae’n rhwystredig tu hwnt ein bod ni angen siarad am y rhain o hyd.
Gwyliwch y fideo hwn Mae’r fideo hwn gan Cycling UK yn hyrwyddo’r Rhwydwaith Beicio cynhwysol, y rhwydwaith fwyaf o ganolfannau beicio sy’n rhoi’r cyfle i filoedd o bobl gael profiad o feicio, a sawl un am y tro cyntaf.
Trafnidiaeth Mae trafnidiaeth yng Nghymru yn gyfrifol am 17% o gyfanswm ein hallyriadau carbon yn flynyddol a thrafnidiaeth yw’r trydydd sector gwaethaf o ran allyrru nwyon tŷ gwydr.
Amdani! Cliciwch ar bob un o'r gwahanol feysydd i ddarganfod pa gamau y gallwch eu cymryd i wneud eich bywyd a'ch cymuned yn fwy cyfeillgar i'r hinsawdd.