Tetra Paks: Datgelu'r ffeithiau

Published: 19 Oct 2020

Photo of Briony Latter

Gan Briony Latter
Gwirfoddolwr, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Y dyddiau hyn, mae nifer ohonom yn yfed llaeth ceirch, soia neu laeth planhigion arall. Gan amlaf cânt eu gwerthu mewn Tetra Paks - y cartonau llachar, deniadol hynny sy'n meddiannu fwyfwy o le ar silffoedd archfarchnadoedd. A ydych chi erioed wedi ystyried pa mor wyrdd a chynaliadwy ydynt? Aeth ein gwirfoddolwr, Briony Latter, ar draul i ddod o hyd i ateb i'r cwestiwn hwn.

Llun ar Flickr a dynnwyd gan Tetra Pak ac a ddosbarthwyd dan drwydded Creative Commons

 

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i Gymru ddod yn economi gylchol, lle caiff gwastraff ei osgoi a deunyddiau eu defnyddio ar gyfer yr amser hiraf posibl, gan ddod yn ddiwastraff erbyn 2050. Gan fod mwy ohonom wedi dechrau yfed llaeth gwahanol, mae cartonau Tetra Pak yn dod yn fwy cyffredin yn ein harchfarchnadoedd.

Gan nad oes cynlluniau ail-lenwi ar gael, mae angen i ailgylchu cynnyrch Tetra Pak fod yn rhwyddach.

 

Llun ar Flickr a dynnwyd gan Tetra Pak ac a ddosbarthwyd dan drwydded Creative Commons

 

Pa mor gynaliadwy yw Tetra Paks?

Dechreuodd Tetra Pak arni fel sefydliad bach yn Lund, Sweden yn 1951 a bellach maent yn gwmni mawr byd-eang sy'n canolbwyntio ar ddatrysiadau pacio a phrosesu bwyd.

Yn sicr mae gan Tetra Pak ddigon i'w ddweud am gynaliadwyedd. Maent wedi bod yn cyhoeddi adroddiadau amgylcheddol ers dros 20 mlynedd ac maent yn defnyddio Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig i arwain eu gwaith cynaliadwyedd. Mae newid hinsawdd a chynaliadwyedd yn bynciau blaenllaw ar eu gwefan: yn amlwg mae'n faes maent yn awyddus i'w bwysleisio.

Yn 2015, gwnaethant lansio "y pecyn carton cyntaf yn y byd i gael ei wneud yn gyfan gwbl o ddeunyddiau yn seiliedig ar blanhigion”, mae'r papurfwrdd sy'n cyfrif am 71% o ddeunydd pacio eu carton wedi'i ardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd ac roedd 69% o ynni a ddefnyddiwyd yn eu gweithrediadau yn 2019 o ffynonellau adnewyddadwy. Maent wedi'u rhestru ar CDP’s A List 2019 am eu hymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd a datgoedwigo, ynghyd â dinasoedd a chwmnïau eraill sy'n mynd i'r afael yn sylweddol â heriau cynaliadwyedd. Yn ddiweddar, cyhoeddasant eu Hadroddiad Cynaliadwyedd 2020 sy'n llawn gwybodaeth ynghylch eu llwyddiannau o ran cynaliadwyedd, er eu bod yn cydnabod bod llawer mwy o waith i'w wneud.

Rydym yn cytuno gyda nhw. Bu i'r sefydliad ailgylchu 50 biliwn o'u cartonau yn 2019, ond gwerthwyd 190 biliwn o becynnau Tetra Pak yr un flwyddyn. Er nad oedd y rheiny i gyd yn gartonau, mae'n fwlch mawr.

Mae anawsterau wedi bod gyda diffyg ailgylchu Tetra Pak, gyda Fietnam yn gweld symiau enfawr o Tetra Paks yn cyrraedd eu traethau. Yn y DU, mae materion wedi'u codi mewn perthynas â diffyg casglu ailgylchu Tetra Pak o'r cartref yn rhai ardaloedd.

 

 

Pa mor rhwydd yw Tetra Paks i'w hailgylchu?

Yr ateb byr yw ei bod yn dibynnu ar le'r ydych yn byw. 

Dyweda Tetra Pak bod eu “cartonau yn cael eu casglu yn y rhan fwyaf o'r DU". Drwy ddewis eich rhanbarth ar eu gwefan ailgylchu, cewch wirio lle gallwch fynd i ailgylchu cartonau Tetra Pak yn eich ardal chi. Yn ymron i ddau draean o ardaloedd Cymru, gellir casglu cartonau Tetra Pak o dai pobl. Fodd bynnag, rhaid i bobl yn ardaloedd eraill o Gymru deithio i'w canolfan ailgylchu lleol sydd o bosibl yn anghyfleus ac amhosibl i rai pobl.

Mae manylion llawn y lleoliadau ailgylchu yma

 

Beth sy'n digwydd i fy nghartonau Tetra Pak unwaith y byddaf wedi'u hailgylchu?

Mae Tetra Pak wedi rhannu gwybodaeth ynghylch y broses ailgylchu ar gyfer cartonau ac er ei bod yn dda iawn bod y gwahanol elfennau yn cael eu hailgylchu, gellir yna defnyddio'r polyethylen (plastig) ac alwminiwm mewn cynhyrchion plastig. Er bod yr elfennau hyn o'r pecynnau yn cael eu hail-ddefnyddio yn hytrach na'u taflu, byddai'n well peidio â chael elfennau plastig o gwbl. Mae Tetra Pak yn cydnabod bod hyn yn heriol a'u bod yn anelu at "ein holl ddeunydd pacio yn defnyddio polymerau adnewyddadwy a/neu wedi'u hailgylchu, neu ddeunyddiau ffibr neu'n seiliedig ar cellwlos, heb fod angen echdynnu mwy o ddefnyddiau crai ffosil”. Yn ogystal, maent yn edrych ar newid yr elfen alwminiwm, sy'n cael effaith fawr ar yr hinsawdd er nad oes llawer ohoni yn y deunydd pacio.

 

 

 

Beth sydd angen newid?

Hoffem weld Tetra Pak yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i safoni casgliadau Tetra Pak ym mhob ardal ac i hyn gael ei gynnwys wrth ddatblygu strategaeth Mwy nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru.

Byddai safoni casgliadau Tetra Pak ledled Cymru yn sicrhau nad oes yr un ardal yn dibynnu ar bobl i fynd â'r cartonau hyn i gyfleuster casglu lleol. Gallai hyn gynorthwyo i wella cyfraddau ailgylchu casgliadau Tetra Pak mewn ardaloedd lle nad yw casgliadau gartref ar gael eto. Er mai'r opsiwn i ail-lenwi poteli fyddai orau, mae gwaith i gynyddu cyfraddau ailgylchu cartonau Tetra Pak wedi bod yn hynod lwyddiannus yn y gorffennol a byddai rhagor o ymdrech yn ei gwneud yn haws i bobl fod yn gynaliadwy.

Ym mis Medi, lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgyrch ‘Bydd Wych, Ailgylcha’. Mae Cymru yn meddu ar gyfraddau ailgylchu uchel eisoes ac yn y trydydd safle gorau yn y byd am ailgylchu gwastraff y cartref, ond nod yr ymgyrch hwn yw cipio'r safle cyntaf i Gymru. Gallai cynyddu ailgylchu Tetra Pak gynorthwyo i gyflawni'r nod hwn.

 

 

Share this page