Teithio cynaliadwy- all twristiaeth yng Nghymru arwain y ffordd?

Published: 27 Jan 2023

Photo of Sarah Wichall

Sarah Wichall
Gwirfoddolwr, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Mae twristiaeth yn cyfrannu’n fawr at yr economi yng Nghymru, ond mae hefyd yn cyfrannu at allyriadau hinsoddol. Mae’n amser i Gymru leoli ei hun fel cyrchfan ar gyfer eco-dwristiaeth, ac arlwyo ar gyfer y galw cynyddol am deithio cynaliadwy ar gyfer ymwelwyr sy’n ymwybodol o’r amgylchedd.
Picture of Bluestone resort in Pembrokeshire
Mae Bluestone yn Sir Benfro wedi cael y Wobr Goriad Gwyrdd am gynaliadwyedd Llun gan: Visit Wales)

Mae Cymru yn gartref i dros 600 o gestyll, tri pharc cenedlaethol, a phedwar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae’r golygfeydd trawiadol, o fynyddoedd i forlinau yn denu pobl o ar draws y byd i werthfawrogi prydferthwch y genedl fechan, ond arbennig hon.

Mae twristiaeth yn cyfrannu’n fawr at economi Cymru, gydag ymwelwyr yn gwario oddeutu £17 miliwn y diwrnod, sy’n gyfanswm o oddeutu £6.3m o ran CMC bob blwyddyn.

Mae hyn yn cefnogi dros 172,000 o swyddi (yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol)- gan gyfrannu at dros 10% o’r holl swyddi yng Nghymru.

Yn anffodus, mae newid hinsawdd yn fygythiad i’r diwydiant twristiaeth, nid yn unig yn uniongyrchol o ran tymereddau eithafol a newidiadau meterolegol, ond yn anuniongyrchol drwy effeithiau megis colled bioamrywiaeth, erydu arfordirol, ac argaeledd dŵr. 

Er hynny, mae’r diwydiant twristiaeth yn cyfrannu at y broblem fawr sy’n dod yn gynyddol fregus i- newid hinsawdd. Ar raddfa byd eang, mae twristiaeth yn gyfrifol am oddeutu 8-11% o allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) y byd, sy’n ffigwr enfawr pan rydych yn ystyried y ffynonellau posibl eraill sy’n cynhyrchu allyriadau (rhagor o wybodaeth).

Er bod cyfran fawr o’r allyriadau hyn yn ganlyniad i gludiant (ehediadau, cychod, ceir ayyb), mae nifer o ffactorau eraill yn cyfrannu at y lefelau uchel o CO2 a welir yn y siart isod. Yn wir, mae astudiaethau byd-eang, wedi awgrymu y gall allyriadau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth gynyddu dros 300% erbyn diwedd y ganrif.  

 

Carbon footprint of Global Tourism
Sustainable Travel International, 2020

 

 

Mae twristiaeth yn darparu cyfle arbennig ar gyfer datgarboneiddio, ac yn gatalydd i newid.  Lansiwyd y Datganiad Glasgow, yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd UN COP26, sy’n amlinellu cynllun ar gyfer y sector twristiaeth i gadw at ymrwymiad byd-eang o haneru allyriadau erbyn 2030, ac yn y pendraw cyflawni sero net erbyn 2050 (rhagor o wybodaeth). Bu i ffigyrau cyn y pandemig ddangos 37.9 miliwn o ymwelwyr o wledydd tramor gyrraedd yn y DU, gan ei wneud y seithfed cyrchfan mwyaf poblogaidd yn y byd.

Yn ystod  pandemig COVID-19, bu gostyngiad o 7% mewn allyriadau GHG byd-eang yn 2020, ond disgwylir i allyriadau CO2 o ganlyniad i dwristiaeth gynyddu 25% erbyn 2030, yn erbyn y senario uchelgais gyfredol. Gan fod y sector twristiaeth yn agored iawn i newid hinsawdd, ond ar yr un pryd yn cyfrannu’n helaeth ato, mae gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn y sector hwn yn amlwg o’r pwys mwyaf.     

 

Cymru

Felly, beth sy’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd o ran twristiaeth gynaliadwy?

Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw o ran datblygiad cynaliadwy. Dyma’r unig wlad hyd yma i gynnwys hyn mewn deddfwriaeth dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n mynnu bod cyrff cyhoeddus yn meddwl am effaith tymor hir y penderfyniadau ar genedlaethau’r dyfodol. Mae saith amcan y Ddeddf hon ( Cymru lewyrchus; Cymru gydnerth; Cymru iachach, Cymru sy’n fwy cyfartal;  Cymru o Gymunedau Cydlynus; Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang) yn berthnasol i ddyfodol y diwydiant twristiaeth gan ei fod yn rhoi rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i gadw at ddatblygiad polisi, cynllunio a meddwl yn strategol (mwy o wybodaeth).

Graphic of the Wellbeing of Future Generations Act showing 7 goals
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rhedeg cynllun achrediad o’r enw Y Goriad Gwyrdd,  yn annog cynaliadwyedd yn y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch. Mae pedwar mantais y cynllun hwn yn cynnwys achrediad economaidd cydnabyddedig sy’n arwain busnesau i wneud y dewisiadau amgylcheddol gorau ar gyfer eu busnesau unigol, gan ddarparu llety cynaliadwy i ymwelwyr, arbedion masnachol, drwy apelio at egin farchnad, ac arbedion ariannol drwy ddechrau ymddygiadau cynaliadwy. 

Mae lleoedd o ddiddordeb yn cynnwys atyniadau, gwersyllfeydd, parciau gwyliau a gwestai.

 

Fel y mae’r galw am dwristiaeth eco-ymwybodol yn cynyddu, mae’r cynllun Goriad Gwyrdd yn caniatáu busnesau i weithio gyda’r egin farchnad wrth weithredu newidiadau amgylcheddol positif sydd o fudd i’r amgylchedd, yr ymwelwyr A’R busnes.  Mae’n sefyllfa ble mae pawb ar eu hennill!

Beth am edrych ar rai o lefydd yng Nghymru sydd â’r achrediad Goriad Gwyrdd.

 

Parc Gwyliau Minffordd, Ynys Môn

Mae Parc Gwyliau Minffordd ar Ynys Môn wedi ennill gwobr Aur David Bellamy am 10 mlynedd yn olynol. Mae’r wobr gadwraeth hon yn cael ei rhoi gan arbenigwyr bywyd gwyllt i barciau sy’n gwneud cyfraniad gweithredol at warchod amgylchedd naturiol Prydain. Mae meini prawf penodol yn cynnwys rheolaeth tir addas er budd y bywyd gwyllt, gostyngiad mewn adnoddau megis ynni mewn dŵr, lleihau gwastraff a chefnogaeth i gymunedau lleol.

Mae Minffordd yn enghraifft wych o’r dull hwn, gan fod y safle yn dibynnu ar ynni solar, yn blaenoriaethu cyfleusterau ailgylchu, ac yn cefnogi’r gymuned leol gyda phlannu blodau gwyllt, ac annog peillwyr heb fawr ddim effaith ar yr ardal.

 

Cyrchfan Gwyliau Bluestone

 

Mae Cyrchfan Gwyliau Bluestone  yn Sir Benfro yn cwmpasu 500 acer o dir. Prynodd y safle yr ardal gyfagos o Goetir Hynafol a Blannwyd a oedd ar fin cael ei glirio gan y Comisiwn Coedwigaeth yn 2003. Maent wedi llwyddo i adfer cynefinoedd, adeiladu rhai newydd, ac annog casgliad iach o fioamrywiaeth yn ôl i’r ardal a oedd wedi’i gwagio.  Mae adnoddau wedi cael eu darparu yn benodol i’w gwneud yn fwy effeithlon, gan arwain at lai na 1% o wastraff yn cael ei anfon at safleoedd tirlenwi. Mae’r gwastraff bwyd o’r safle yn cael ei dreulio yn anaerobig yn lleol yn Asguard Renewables yn Aberteifi.  Mae hyn yn creu methan sydd yna’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan i’r Grid Cenedlaethol, a biswail a ddefnyddir fel gwrtaith pridd gan ffermwyr lleol.

Mae partneriaethau cymunedol hefyd yn cael eu hannog yn fawr, gyda hen eitemau yn cael eu huwchgylchu neu eu hailddefnyddio, drwy sefydliadau megis Value Independence, sy’n annog unigolion i ddysgu sgiliau newydd wrth gynnal dull cylchol.  Cesglir dŵr glaw a’i ailgyfeirio i’w pwll arafu, ble mae’n cael ei drin gydag UV i’w ddefnyddio ar gyfer dyfrio coed ar draws y gyrchfan.  Er bod y safle yn dal i ddefnyddio ychydig o danwyddau ffosil fel ynni, y ddau brif ffurf o ynni yw trydan a bio-màs. Mae’r cyflenwad ynni trydan hefyd wedi’i gefnogi gan REGO, sy’n golygu bod yr un faint o ynni yn cael ei gynhyrchu o ffynhonnell adnewyddadwy di-garbon yn y DU hefyd.

Blue Lagoon Bluestone
Glenn Hewer (CC BY-SA 3.0)

Mae’r parc dŵr ar y safle ‘Blue Lagoon’ sy’n cael ei bweru gan bio-màs, yn arbed oddeutu 1300 tunnell o CO2e bob blwyddyn, o’i gymharu â chynnyrch ynni sy’n seiliedig ar olew. Mae’r safle wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb i ddatblygu ymgyrch ‘Dodrefn Naturiol’, gan annog prosiectau a mentrau y mae’r gymuned a’r amgylchedd yn elwa ohonynt, gan weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill megis Surfers Against Sewage a Phartneriaeth Natur Sir Benfro.  

 

Bluestone's brand values
Gwerthoedd Brand Bluestone

 

The Roost

Mae The Roost ym Merthyr Tudful  yn safle caban hunanarlwyo bach sy’n cynnig system ynni ‘trydan yn unig’. Nid oes prinder glaw i ni yng Nghymru yn bendant, ac mae’r safle hon yn anelu at ei ddefnyddio. Mae dŵr glaw yn cael ei gasglu a’i storio mewn tanciau mawr a ddefnyddir ar y safle i dynnu dŵr yn y toiledau, ac i ddyfrio’r ardd. Mae goleuadau LED yn cael eu sbarduno drwy synwyryddion symud i sicrhau cyn lleied o wastraff ynni â phosibl, ac mae’r gwresogyddion a reolir gan Wi-Fi yn diffodd os ydynt yn cael eu gadael ymlaen.

Photo of a flyer from The Roost, 'this loo flushes with rainwater'
Mae’r Roost ym Merthyr Tudful yn tynnu’r dŵr yn eu toiledau gyda dŵr glaw

Mae’r safle wedi plannu coed a gwrychoedd brodorol, ac mae ganddynt bolisi ‘dim torri’r gwair’ i annog bioamrywiaeth. Mae cynlluniau parhaus ar y gweill i osod paneli solar a storfa batri yn ogystal â phwyntiau gwefru Cerbydau Trydan (EV)   Anogir beiciau, a gallwch hyd yn oed defnyddio’r dŵr glaw a gasglwyd i olchi eich teiars!  

 

 

Dim ond rhai enghreifftiau yn unig yw’r rhain o’r safleoedd ar draws Cymru sydd ag achrediad Goriad Gwyrdd- gellir dod o hyd i fwy ar y map hwn.

 

O westai gwely a brecwast bach i gyrchfannau mwy, mae’n dangos gyda’r gefnogaeth a’r anogaeth gywir, nid yw twristiaeth fwy cynaliadwy nid yn unig yn gyraeddadwy, ond mae hefyd yn atyniad enfawr i ymwelwyr o’r un anian.

 

Yn ôl ymchwil o 2018, dywedodd 87% o deithwyr eu bod eisiau teithio yn fwy cynaliadwy, ond dim ond 39% a ddywedodd eu bod yn llwyddo i’w gadw yn gynaliadwy, gan bwysleisio’r angen am fentrau cymhellol gan fusnesau a’r sector twristiaeth ei hun.

Rhwystr mawr yw’r gost o wneud eco-dwristiaeth yn hygyrch, gyda 42% o unigolion yn gweld teithio cynaliadwy yn fwy anodd oherwydd y costau ychwanegol. Mae’r galw am dwristiaeth gynaliadwy yn amlwg, ac yn parhau i dyfu o ran poblogrwydd. Erbyn 2027, disgwylir i’r diwydiant eco-dwristiaeth gyrraedd $33.8 biliwn ledled y byd.

Ar draws y byd, mae eco-dwristiaeth wedi bodoli yn ddistaw, ac mae ei fanteisio wedi profi’n hynod o fanteisiol i ardaloedd penodol. Beth am edrych ar rai enghreifftiau o ba mor drawsffurfiol y gall hyn fod.

 

Dysgu gan Gosta Rica

Mae Gorynys Osa yng Nghosta Rica yn un o gyrchfannau mwyaf anghysbell y byd, ond mae’n un o’r prif atyniadau i ymwelwyr yn y wlad.

Osa Conservation, 2023
Osa Conservation, 2023

Mae’r ardal hon sy’n gyfoethog yn fiolegol yn gartref i dros hanner o rywogaethau Costa Rica yn ôl pob sôn, ac yn hafan i eco-dwristiaeth ar yr un pryd. Casglwyd data ar draws y rhanbarth hwn i asesu effeithiau ecodwristiaeth a’r cyfleoedd y mae’n eu darparu. Mae ecodwristiaeth yn gyfrifol am y rhan fwyaf o swyddi, gan ddarparu incwm uwch, ac mae’n un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at  ansawdd bywyd preswylwyr.   

Mae unigolion lleol yn berchen ar ddarn sylweddol o’r eco fythynnod, gyda nifer yn rhoi arian yn ôl i gymunedau lleol ar gyfer anghenion cadwraeth a datblygu megis addysg amgylcheddol, mentrau ailgylchu, ymgyrchoedd plannu coed, clinigau iechyd a rhaglenni cadwraeth leol. Mae ecodwristiaeth yn ymddwyn fel cyswllt hanfodol i wasanaethau cymunedol a mynediad at ofal iechyd. 

Nid yn unig mae cyflogaeth leol yn darparu’r manteision ariannol sy’n cefnogi cadwraeth yn yr ardal, ond hefyd mae cyflogaeth yn cyfrannu at synnwyr o gymuned a lle, yn ei dro yn arwain at agweddau positif tuag at gadwraeth.  Mae unigolion wedi dod yn fwy sensitif tuag at yr angen i ddiogelu’r ardaloedd hyn diolch i ecodwristiaeth, ac  mae’n ddiwydiant a ffafrir o’i gymharu â’r arferion echdynnol eraill yn y rhanbarth (coed, cloddio am aur, amaethyddiaeth planhigfeydd ayyb). Dewch o hyd i fwy o wybodaeth

 

Rhywogaethau sydd dan fygythiad

Picture of a penguin in Patagonia
Pengwin Magelanaidd yng Ngorynys Valdes, yr Ariannin (David, CC BY 2.0)

Yn ogystal â bod o fudd i gymunedau dynol, mae ecodwristiaeth wedi arwain yn uniongyrchol at oroesiad rywogaethau sydd dan fygythiad.

Mae ardaloedd a amddiffynnir ym Mhatagonia, yr Ariannin, Seland Newydd, Awstralia, a De Affrica yn darparu noddfa hanfodol i heidiau o bengwiniaid bregus, ble mae miloedd o ymwelwyr yn dod bob blwyddyn i gefnogi eu bodolaeth.  Yn aml, mae’r lleoedd diogel hyn yn cael eu monitro rhag aflonyddiad gan fodau dynol, a chredir ar gyfer o leiaf hanner o rywogaethau mamaliaid sydd mewn perygl, bod 5% o unigolion gwyllt yn dibynnu’n uniongyrchol ar dwristiaeth er mwyn goroesi.

Er mor apelgar yw cyrchfannau sydd ymhellach, mae nifer ohonom yn dod yn fwy ymwybodol o’n ôl-troed carbon. Mae hyn yn rhoi’r cyfle perffaith i Gymru fuddsoddi mewn ecodwristiaeth yn llawer nes at gartref.  Mae Cymru eisoes uchaf ar y rhestr ‘Most Eco-Friendly Country Escapes in the UK’, gyda pharciau cenedlaethol anghymarus, mentrau ailgylchu a hyd yn oed opsiynau bwyd fegan.

 

Beth yr hoffem ei weld

Hoffem weld Llywodraeth Cymru, a phob corff perthnasol yng Nghymru, yn gweithio ochr yn ochr â’r diwydiant twristiaeth i ddarparu strategaeth gynhwysfawr, yn sicrhau bod y diwydiant twristiaeth yn chwarae rôl weithredol i leihau ei allyriadau hinsawdd ei hun, wrth ddefnyddio’r cyfle i osod Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr sy’n ymwybodol o’r  amgylchedd. Wrth edrych ymlaen tuag at 2023, byddai’n wych gweld mwy o leoliadau ac atyniadau twristiaeth Cymru yn cymhwyso ar gyfer y Wobr Goriad Gwyrdd.

Gall ecodwristiaeth os yw’n cael ei weithredu’n gywir, greu dolen fwydo’n ôl bositif rhwng twristiaeth a chadwraeth.

Felly dewch ymlaen, Cymru! Beth am fod yr arweinwyr wrth greu hafan i deithio cynaliadwy, tra bod o fudd i’n cymunedau lleol a bioamrywiaeth hefyd.

 

 

 

Share this page